English Cymraeg

Rise and Fall: Great Empires that Shaped the World

gan Peter Allen

Oedran diddordeb: 9 i 11

Cyhoeddwr Cicada Books, 2025

  • Historical
  • Non-fiction

Am y llyfr hwn

Beth sy’n gwneud ymerodraeth yn llwyddiannus? Pa rinweddau sy’n galluogi arweinydd i ysbrydoli miliynau, i greu llywodraeth a rheoli ardaloedd helaeth o dir? Beth yw rhai o nodweddion ymerodraeth, a sut mae un yn ffurfio yn y lle cyntaf? Yn cynnwys ymerodraethau’r Minoaid, y Llychlynwyr, yr Ymerodraeth Bersiaidd Gyntaf, yr ymerodraethau Mongolaidd a Maliaidd, Teyrnas Benin, yr Asteciaid, Teyrnas Ayutthaya o Wlad Thai a’r Siogyniaeth Kamakura Japaneaidd, mae’r adnodd ffeithiol ardderchog hwn yn arddangos pob diwylliant diddorol, gan edrych ar sut y daeth pob ymerodraeth i rym, a beth oedd ei harwyddocâd. 

Yn ogystal â rhannu rhywfaint o ymerodraethau mwyaf nodedig hanes, mae’r awdur a’r darlunydd Peter Allen yn dadansoddi rhai o’u nodweddion cyffredin: arweinwyr eofn, carismatig sy’n cydbwyso annhosturi gyda thegwch; rhwydweithiau post sy’n cysylltu tiriogaethau helaeth; llywodraethau strwythuredig; croesawu amrywiaeth grefyddol a diwylliannol i gadw heddwch rhwng y boblogaeth. 

Fodd bynnag, rydym hefyd yn darganfod yr hyn sy’n digwydd i’r ymerodraethau hynny pan fo grym yn cael ei gamddefnyddio a’i gymryd yn ganiataol. Mae pob ymerodraeth yn cael ei chyflwyno ar draws nifer o dudalennau, gan ddangos i’r darllenydd ei phensaernïaeth, ei diwylliant, ei chelf, ei chrefydd a sut roedd bywyd beunyddiol yn edrych i bobl. 

Mae Allen hefyd yn esbonio pam wnaeth pob ymerodraeth ddirywio, a’r hyn wnaeth ei dilyn. Mae hwn yn llyfr wedi’i ddarlunio'n lliwgar a deniadol sydd, serch hynny, yn trafod rhai syniadau cymhleth, sy’n golygu y byddai fwyaf addas ar gyfer plant oed cynradd hŷn. Ceir geirfa yng nghefn y llyfr a fydd yn helpu darllenwyr chwilfrydig i gael dealltwriaeth dda o’r deunydd, ac nid oes amheuaeth y bydd oedolion sy’n darllen yn mwynhau dysgu rhywbeth bach hefyd.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn