Llyfrau Gwych ar gyfer Babanod yn y Gymraeg a’r Saesneg / Great Books for Babies in Welsh and English
Ydych chi’n chwilio am lyfrau Cymraeg neu Saesneg i’w darllen i’ch baban? Dydy hi fyth yn rhy gynnar i ddechrau mwynhau darllen felly dyma ein hoff lyfrau ni ichi roi cynnig arnyn nhw gyda’ch baban yn y ddwy iaith.
Are you looking for books to read to your baby in Welsh or English? It’s never too early to start enjoying reading so here’s our favourite books for you to try with your baby in both languages.
-
Honc Honc! Me Me! (bilingual)
Author: Petr Horacek
Publisher: Rily
Interest age: 0-3 years
Gallwch chi fodio trwy anifeiliaid fferm cyfarwydd gyda’ch baban, a chael hwyl yn gwneud y synau wrth ddarllen drwyddo.
Flip through familiar farmyard animals with your baby, joining in with the noises along the way.
-
Mae Llygoden yn Fach / Mouse is Small (bilingual)
Author: Mary Murphy Adapted by Elin Meek
Publisher: Dref Wen
Interest age: 0-3 years
Dewch i gyfarfod ag anifeiliaid bach a mawr yn y llyfr fflip-fflapiau difyr hwn, ond gwyliwch rhag y corryn!
Meet animals big and small in this book full of flip-flap fun, but watch out for the spider!
-
Mww! Mww! Moo! Moo! (bilingual)
Author: Sebastien Braun Adapted by Catrin Wyn Lewis
Publisher: Rily
Interest age: 0-3 years
Dewch o hyd i’r holl anifeiliaid fferm sy’n cuddio y tu ôl i’r fflapiau mawr yn y llyfr hwn.
Find all the farm animals hiding behind the large flaps in this book. -
Pi-Po Parc! / Peekaboo Park! (bilingual)
Author: Emily Bolam Adapted by Elin Meek
Publisher: Dref Wen
Interest age: 0-3 years
Fe fydd babanod yn mwynhau darganfod pwy sydd y tu ôl i’r fflapiau yn y llyfr hwn sy’n llawn pethau annisgwyl.
Babies will enjoy discovering who is behind the flaps in this book full of surprises. -
Lliwiau enfys pi-po! / Rainbow colours Peekaboo! (bilingual)
Author: Dawn Sirrett Adapted by Roger Boore
Publisher: DK / Dref Wen
Interest age: 0-3 years
Beth am ymuno â Tedi yn y llyfr cyffwrdd a theimlo hwn wrth iddo chwilio am fabanod sydd wedi’u gwisgo yn holl liwiau’r enfys.
Join Teddy in this touch-and-feel book as he looks for babies dressed in all the colours of the rainbow. -
Lliwiau Hapus! / Happy Colours! (bilingual)
Author: Shen Roddie Adapted by Roger Boore Illustrator: Ben Cort
Publisher: Dref Wen
Interest age: 1-3 years
Beth am fentro i fyd Cath sy’n llawn lliw: melyn mentrus, oren eofn a phorffor breuddwydiol.
Enter into Cat’s world of colour: sunny yellow, brave orange and dreamy purple. -
Dan Deinosor Patrymau / Dan Dinosaur Patterns (bilingual)
Author: Lara Jones Adapted by Roger Boore
Publisher: Dref Wen
Interest age: 1-3 years
Mae Dan Deinosor yn gweld patrymau ym mhobman yn y llyfr cyffwrdd a theimlo dwyieithog hwn.
Dan Dinosaur sees patterns everywhere he goes in this bilingual touch-and-feel book. -
Chwarae gyda Cymro / Playtime with Cymro (bilingual)
Author: Caroline Jayne Church
Publisher: Gomer
Interest age: 0-3 years
Llyfr cyffwrdd a theimlo dwyieithog, darganfyddwch bethau llawn hwyl i'w gwneud a'u gweld gyda Cymro y ci.
Join Cymro as he spends a day of fun in the sun splashing in a pool, building sandcastles and playing with a ball.
-
50 Gair Cyntaf / First 50 Words (bilingual)
Author: Atebol Adapted by Glyn Saunders-Jones
Publisher: Atebol
Interest age: 0-3 years
Mae'r llyfr bwrdd hwn yn llawn o bethau cyfarwydd o fywyd bob dydd ac mae'n ffordd liwgar o ddysgu geiriau newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg.
This board book is full of familiar things from every-day life and is a colourful way to learn new words in Welsh and English.