Tymor yr Hydref
Bydd Pori Drwy Stori’n darparu deunyddiau dwyieithog ar gyfer ysgolion a theuluoedd:
Her Rigymu – set o rigymau difyr ac amrywiol Cymraeg a Saesneg i’w dysgu a’u mwynhau. Bydd ysgolion yn derbyn llyfrynnau a thystysgrifau i’r plant, a phosteri ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Calendr Dyna Dywydd – dyma weithgaredd i’r teulu ar gyfer hanner tymor yr hydref. Bydd cofnodi mathau gwahanol o dywydd yn helpu plant i ddatblygu’u sgiliau mathemateg yn y blynyddoedd cynnar.
Her Rigymu
Beth am ymuno â ni ar siwrnai drwy rigymau a chaneuon!
Rydyn ni wedi dewis 10 o rigymau difyr ac amrywiol Cymraeg a Saesneg ichi eu mwynhau â’ch dosbarth Derbyn.
Calendr Dyna Dywydd
Calendr Dyna Dywydd
Dyma weithgaredd i’r teulu ar gyfer hanner tymor yr hydref. Bydd cofnodi mathau gwahanol o dywydd yn helpu plant i ddatblygu’u sgiliau mathemateg yn y blynyddoedd cynnar.
Cylchgrawn Her yr Ungorn
Cylchgrawn Her yr Ungorn
Fel rheol, rhoddir Her yr Ungorn i blant ar ddiwedd y flwyddyn Dderbyn i’w ddefnyddio dros wyliau’r haf. Eleni, rydyn ni wedi addasu’r cylchgrawn i gefnogi plant wrth iddyn nhw symud o’r flwyddyn Dderbyn i Flwyddyn 1.