Tymor yr haf
Croeso i’ch adnoddau Pori Drwy Stori ar gyfer tymor yr haf.
Bydd yr adnodd creu llyfr yn helpu eich dosbarth i archwilio’r broses o wneud eu llyfr eu hunain, gan ddarparu offeryn i’w hysgogi a fydd yn rhoi cyfle iddynt ysgrifennu’n annibynnol ac ar y cyd mewn ymateb i amrywiaeth o sbardunau, ar bynciau sydd o ddiddordeb a phwysigrwydd iddyn nhw. Byddem ni’n awgrymu defnyddio’r rhain gyda’ch dosbarth yn ystod tymor yr haf.
Cynlluniwyd cylchgrawn Her yr Uncorn i gael ei anfon adref gyda’r plant dros yr haf ar ddiwedd eu blwyddyn yn y Derbyn. Cysylltir gweithgareddau gyda deilliannau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ac maen nhw’n annog plant i ymarfer sgiliau dros y gwyliau drwy chwarae gemau gyda rhiant neu ofalwr.
Fy Llyfr
Fy Llyfr
Bydd yr adnodd creu llyfr yn helpu eich dosbarth i archwilio’r broses o wneud eu llyfr eu hunain, gan ddarparu offeryn i’w hysgogi a fydd yn rhoi cyfle iddynt ysgrifennu’n annibynnol ac ar y cyd mewn ymateb i bynciau diddorol.
Cylchgrawn Her yr Ungorn
Cylchgrawn Her yr Ungorn
Fel rheol, rhoddir Her yr Ungorn i blant ar ddiwedd y flwyddyn Dderbyn i’w ddefnyddio dros wyliau’r haf. Eleni, rydyn ni wedi addasu’r cylchgrawn i gefnogi plant wrth iddyn nhw symud o’r flwyddyn Dderbyn i Flwyddyn 1.