Fy Llyfr
Croeso i’ch deunyddiau gwneud llyfr oddi wrth Pori Drwy Stori. Bydd pob plentyn yn eich dosbarth Derbyn yn derbyn copi o adnoddau Fy Llyfr a gynlluniwyd er mwyn datblygu sgiliau disgyblion mewn gwneud marciau ac ysgrifennu, ac er mwyn gwneud i’ch dosbarth deimlo fel awduron go iawn.
Bydd yr adnodd unigryw hwn yn helpu eich dosbarth i archwilio’r broses o greu eu llyfr eu hunain, gan ddarparu offeryn ysgogol a fydd yn eu caniatâu i ysgrifennu’n annibynnol ac ar y cyd mewn ymateb i amrywiaeth o sbardunau, ar bynciau sydd o ddiddordeb iddynt, ac sy’n bwysig iddynt. Byddem ni’n awgrymu defnyddio’r rhain gyda’ch dosbarth yn ystod tymor yr haf.
Fy Llyfr
Lawrlwytho templed Fy Llyfr
Adnodd Fy Llyfr, a ddatblygwyd i alluogi pob plentyn i gael digonedd o le i greu ei stori ei hun.
Canllaw i athrawon
Canllaw Fy Llyfr i athrawon
Canllaw dwyieithog gyda llawer o awgrymiadau defnyddiol a chreadigol ar gyfer athrawon sy’n defnyddio adnodd Fy Llyfr gyda’u dosbarth.
Pecyn offer i athrawon
Pecyn offer Fy Llyfr
Mae’r pecyn offer hwn yn llawn o syniadau hwyliog ar gyfer gwersi a gweithgareddau gan ddefnyddio adnodd Fy Llyfr, a ysbrydolwyd gan athrawon o bob cwr o Gymru.