Cwestiynau Cyson
-
A oes unrhyw gost i ysgolion?
Nac oes – ariannwyd Pori Drwy Stori gan Lywodraeth Cymru. Mae pob ysgol a gynhelir yng Nghymru’n gymwys a byddant yn derbyn y rhaglen yn awtomatig. Does dim angen cofrestru.
-
Pryd fydd yr adnoddau’n cael eu cyflenwi i’r ysgolion?
Cyflenwir adnoddau ddwywaith y flwyddyn. Ym mis Ionawr, bydd ysgolion yn derbyn adnoddau tymor y Gwanwyn a’r Haf. Ym mis Mehefin, bydd ysgolion yn derbyn adnoddau ar gyfer gwyliau’r haf a thymor yr Hydref.
-
Pa blant sy’n gymwys i dderbyn adnoddau Pori Drwy Stori?
Bwriedir pecynnau Pori Drwy Stori ar gyfer holl blant oedran Derbyn, i’w defnyddio yn y dosbarth yn ogystal â mynd â nhw adref i’w rhannu gyda theulu a ffrindiau.
Mae gennym ddigon o adnoddau ar gyfer plant oedran Derbyn (4 i 5 mlwydd oed) ond ni allwn ddarparu pecynnau ar gyfer unrhyw grwpiau oedran na phwrpasau eraill. Mae hyn yn golygu na allwn ddarparu pecynnau ar gyfer plant Meithrin na Blwyddyn 1, hyd yn oed os yw’r dosbarthiadau hyn wedi’u cymysgu â’r Derbyn, neu mae perygl y byddwn ni’n brin o becynnau.
-
Beth am y plant nad ydyn nhw’n dechrau’r ysgol tan yn hwyrach yn y flwyddyn?
Dylai ysgolion dderbyn digon o adnoddau ar gyfer yr holl blant y disgwylir iddynt ddechrau’r Derbyn yn ystod y flwyddyn ysgol hon. Gofynnwn i athrawon gadw unrhyw adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen arnynt ar gyfer unrhyw blant a fydd yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol, a’u rhoi i blant newydd yn y Derbyn yn unig.
-
 phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i gwestiwn?
Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gefnogaeth bellach arnoch ynghylch y rhaglen, anfonwch eich ymholiad at [email protected] os gwelwch yn dda, ac fe wnawn ni ymateb ar y cyfle cyntaf.