Croeso i Amser Stori BookTrust Cymru

Dewch i ni wneud eich Amser Stori BookTrust Cymru yn brofiad gwych i bob un o'ch teuluoedd.

Ar y dudalen hon fe welwch adnoddau, cynghorion a syniadau ynghylch sut i gefnogi teuluoedd ar eu hanturiaethau darllen.

Deuluoedd: Dewch o hyd i wybodaeth am Amser Stori BookTrust Cymru yma

Dewch o hyd i ffyrdd sydd wedi hen ennill eu plwyf i baratoi eich llyfrgell ar gyfer Amser Stori BookTrust Cymru.

Lawrlwythwch bosteri, tystysgrifau, taflenni gweithgaredd, asedau cyfryngau cymdeithasol a mwy.

Cwestiynau Cyson Amser Stori BookTrust Cymru

  • Beth yw Amser Stori BookTrust Cymru?

    Mae Amser Stori BookTrust Cymru yn rhaglen beilot, a gynlluniwyd i gefnogi llyfrgelloedd i ysbrydoli teuluoedd ar incwm isel â phlant 0-5 oed i rannu straeon gyda'i gilydd a gwneud ymweld â'u llyfrgell leol yn rhan o fywyd bob-dydd.

  • Beth fydd fy llyfrgell yn ei dderbyn?

    Bydd llyfrgelloedd dethol yn derbyn un copi o bob un o'r chwe llyfr Amser Stori BookTrust Cymru yn ogystal ag adnoddau i hybu'r llyfrgell fel lle croesawgar a rhyngweithiol.

    Bydd gan lyfrgelloedd fynediad hefyd i ystod o adnoddau diriaethol a digidol i'w rhannu â theuluoedd ar eu taith i rannu straeon.

  • Pryd fydda i’n derbyn adnoddau (print a digidol)?

    Dylai adnoddau print fod wedi cyrraedd yn ystod mis Chwefror 2023, a bydd mynediad i adnoddau digidol yn dilyn o fis Ebrill 2023 ymlaen.

  • Ar gyfer pwy mae Amser Stori BookTrust Cymru?

    Ein gobaith yw y bydd pob teulu â phlant dan 5 oed sy'n ymweld â'r llyfrgell yn mwynhau adnoddau a phrofiadau Amser Stori BookTrust Cymru. Nid bwriad BookTrust mo eithrio unrhyw deulu rhag mwynhau profiad Amser Stori BookTrust Cymru.

    Serch hynny, mae'n bwysig nodi fod Amser Stori BookTrust Cymru wedi'i gynllunio'n arbennig i ymgysylltu â theuluoedd ar incwm is na fydden nhw fel arfer yn defnyddio gwasanaethau'r llyfrgell – boed nhw'n ymwelwyr tro cyntaf neu'n deuluoedd nad ydyn nhw'n defnyddio'r llyfrgell yn rheolaidd.

    Yn y rhaglen hon a rhaglenni BookTrust eraill, mae gennym ffocws arbennig ar gefnogi teuluoedd ar incwm is. Gwyddom fod teuluoedd sy'n wynebu anfantais yn debygol o elwa fwyaf o ddatblygu arfer o ddarllen ar y cyd yn gynnar.

  • Sut alla i gymryd rhan yn addysg Amser Stori BookTrust Cymru?

    Peilot yw Amser Stori BookTrust Cymru, felly byddem yn falch iawn pe gallech roi gwybod i ni beth sy'n gweithio, a beth allai fod yn well. Byddwn ni'n cysylltu'n uniongyrchol â llyfrgelloedd sy'n cymryd rhan i drafod hyn.

  • Beth os oes gen i fwy o gwestiynau am Amser Stori BookTrust Cymru?

    Os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei wybod am Amser Stori BookTrust Cymru, cysylltwch drwy gyfrwng [email protected]