Amser Stori BookTrust Cymru i deuluoedd

Dysgwch sut allwch chi gymryd rhan gyda hwyl Amser Stori BookTrust Cymru yn eich llyfrgell.

Beth yw Amser Stori BookTrust Cymru?

Mae Amser Stori BookTrust Cymru yn brofiad cyffrous mewn llyfrgelloedd ar gyfer teuluoedd, sy’n cynnig ffordd hawdd a llawn hwyl i ddifyrru eich plant dan 5 oed yn eich llyfrgell. Dewch i fwynhau gweithgareddau am ddim mewn lleoliad ble y gallwch gael hwyl a mwynhau straeon gyda'ch gilydd.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Yn 2024-25, mae Amser Stori BookTrust Cymru yn digwydd mewn llyfrgelloedd dethol ledled Cymru. Ewch i'ch llyfrgell leol i weld a fyddan nhw'n cymryd rhan – gallwch ddod o hyd i'ch llyfrgell agosaf yma. A chofiwch ddweud wrth eich teulu a ffrindiau am Amser Stori BookTrust Cymru hefyd!

Dewch i weld llyfrau Amser Stori BookTrust Cymru ar gyfer eleni

Rydyn ni wedi dewis pum llyfr sy'n berffaith, yn ein barn ni, ar gyfer eu mwynhau gyda phlant 0-5 oed!

Gŵydd a'i Gacennau / Goose's Cake Bake

Awdur / Darlunydd: Laura Wall

Addasiad: Manon Steffan Ros

Cyhoeddwr: Atebol

Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

Snip Snap

Awdur / Darlunydd: Ben Newman

Addasiad: Elin Meek

Cyhoeddwr: Dref Wen

Stori swnllyd a doniol gyda lle i ddwylo bach prysur gydio yn y tudalennau.

Mi Wnes i Weld Mamoth! / I Did See a Mammoth!

Awdur / Darlunydd: Alex Willmore

Addasiad: Casia Wiliam

Cyhoeddwr: Atebol

Croeso i’r Antarctig, ble mae criw dewr ar antur yn astudio pengwiniaid.

Ond mae un anturiaethwr ifanc wedi darganfod rhywbeth gwahanol. Stori ddoniol am gofleidio’r annisgwyl!

Does Dim Yn Gyflymach Na'r Tsita / There's Nothing Faster Than a Cheetah

Awdur: Tom Nicoll

Darlunydd: Ross Collins

Addasiad: Luned Aaron

Cyhoeddwr: Rily

Tri, dau, un... Mae'r ras ar gychwyn a'r anifeiliaid ar garlam! Rhinoseros yn rholio, Cadno croch mewn injan goch, Hipo yn hedfan, Pengwiniaid yn prancio ar ffyn pogo... Ond does DIM yn gyflymach na'r tsita. Nac oes?

Helwyr Sbageti / Spaghetti Hunters

Awdur / Darlunydd: Morag Hood

Addasiad: Elin Meek

Cyhoeddwr: Dref Wen

Ymuna â Hwyaden a Ceffyl Pitw i chwilio am y pasta mwyaf lletchwith ohonyn nhw i gyd . . . Sbageti!