Darllen gyda'ch plentyn
Mae rhannu llyfr â phlentyn yn ffordd wych i ddod yn agos, i chwerthin ac i siarad â'ch gilydd. Mae hefyd yn gallu helpu i roi dechrau gwych mewn bywyd i blant.
Sut ydw i'n dechrau?
Os nad ydych chi'n teimlo'n hyderus ynglŷn â darllen yn uchel, peidiwch â phoeni – does yr un ffordd gywir neu anghywir o fwynhau stori gyda'ch gilydd. Ond os hoffech chi gael rhai awgrymiadau, dyma ichi ambell un i'ch helpu.
- Cwtshiwch! Gall eich plentyn ddal y llyfr ei hun a throi'r tudalennau hefyd!
- Cymerwch lyfr i'ch canlyn pan fyddwch chi'n codi allan – beth am weld a allwch chi ddod o hyd i bethau mewn bywyd go iawn sy'n eich atgoffa o'r straeon?
- Ceisiwch fod yn un o'r cymeriadau, gan wneud lleisiau ac ystumiau gwirion. Bydd eich plentyn wrth ei fodd!
- Gallwch chi ddarllen unrhyw bryd, unrhyw le. Ar y bws, yn y parc – mae llyfrau'n wych am gynnig adloniant sydyn.
- Does ddim rhaid ichi ddarllen llyfr o glawr i glawr; mae'n bosibl pori yma a thraw.
- Mwynhewch! Does yr un ffordd gywir neu anghywir i rannu stori – gwnewch yr hyn sy'n gweithio i chi a'ch plentyn.