Eich pecynnau Dechrau Da i Blant Bach ac i Blant Cyn Oed Ysgol
Syniadau ac adnoddau ar gyfer mwynhau eich pecynnau i blant bach ac i blant cyn oed ysgol gyda’ch gilydd.
- Pyped bys: ei ddefnyddio i ennyn diddordeb eich plentyn yn y stori (ceisiwch esgus mai un o'r cymeriadau ydy'r pyped).
- Anifeiliaid Bach y Fferm! Rhowch eich bysedd drwy'r tyllau fel eu bod yn edrych fel coesau'r anifeiliaid.
- Rôr! Rôr! Deinosor ydw i! Gwnewch i'r deinosoriaid ddawnsio trwy dynnu'r tabiau – gwneud synau deinosor a gweld os all eich plentyn eich copïo chi.
- Os oes awydd rhigymau arnoch chi, rhowch gynnig ar y rhai yng nghefn y pecyn.