Bydd llyfrgelloedd dethol yn derbyn chwe llyfr, detholiad o adnoddau diriaethol ynghyd â mynediad i adnoddau digidol.
Tystysgrif
Eich dewis chi yw pryd i gyflwyno tystysgrifau i blant a theuluoedd – efallai y gallai fod y tro cyntaf y dônt i sesiwn, adeg benthyca llyfr o'r llyfrgell neu drwy bleidleisio am eu hoff stori.
Ond mae'r dystysgrif hefyd yn symbyliad gwych ar gyfer cael teuluoedd i barhau i ddychwelyd i'r llyfrgell ar gyfer pob sesiwn – anogwch rieni a gofalwyr i ddal ati i ddod yn ôl er mwyn iddyn nhw dderbyn eu tystysgrif ar ôl iddyn nhw fwynhau pob un o'r chwe llyfr.
Taflenni gweithgaredd
Sgroliwch i lawr i'w gweld
Mae gan bob un o lyfrau Amser Stori BookTrust Cymru daflen weithgaredd i gyd-fynd ag ef. Beth am annog teuluoedd i aros ar ôl diwedd y stori i roi cynnig ar y daflen?
Gallech greu pecynnau o'r taflenni gweithgaredd i fynd adref, gan alluogi i aelodau eraill o'r teulu deimlo eu bod yn rhan o Amser Stori BookTrust Cymru.
Crëwr Atgofion
Anogwch y teuluoedd i dynnu llun gyda'r crëwr atgofion Amser Stori BookTrust Cymru! Mae'n ffordd wych o beri fod yr ymweliad cyntaf â'r llyfrgell yn teimlo fel digwyddiad arbennig, a rhywbeth i'w ddathlu a'i gofio.
Efallai yr hoffen nhw hefyd rannu'u lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddathlu ymweliad eu plentyn â'r llyfrgell, ac ar yr un pryd roi hwb i'ch sesiynau Amser Stori BookTrust Cymru!
Gwnewch yn siŵr bod pob un o staff y llyfrgell yn ymwybodol o'ch dolenni cyfryngau cymdeithasol rhag ofn yr hoffai teuluoedd eich tagio yn eu llun (a gallant hoffi a rhoi sylw arnynt os yw hyn yn digwydd!)
Beth am gynnwys eich manylion cyfryngau cymdeithasol ar boster ger y crëwr atgofion, neu ar daflen, ac annog ymwelwyr i'ch dilyn?
Llyfr sticeri Amser Stori BookTrust Cymru
Mae llyfr sticeri Amser Stori BookTrust Cymru yn ffordd wych arall o annog teuluoedd i ddod ar ymweliad dro ar ôl tro â'r llyfrgell.
Eich dewis chi yn llwyr yw sut i ddefnyddio'r sticeri. Efallai y gallech wobrwyo'r plant am fwynhau sesiwn amser stori, llenwi taflen weithgaredd neu fenthyca llyfr.
I rai teuluoedd, gallai cyffro casglu rhagor o sticeri bob tro y byddan nhw'n ymweld â'r llyfrgell eu hannog i ailymweld yn gyson.
Penellau Tylluan
Mae ein penellau tylluan yn wych ar gyfer annog plant i archwilio rhannau amrywiol o adran blant eich llyfrgell!
Heriwch nhw i ddod o hyd i'r holl dylluanod – os yw'r plant yn ymweld â'r llyfrgell am y tro cyntaf, neu os oes ganddynt lawer o egni i'w losgi, gallech drefnu helfa hwyliog!
Poster cymunedol
Lawrlwythwch ein poster i hysbysebu Amser Stori BookTrust Cymru yn eich cymuned leol.
Poster llyfrgell
Lawrlwythwch ein poster i’w arddangos yn eich llyfrgell i hysbysebu Amser Stori BookTrust Cymru.
Poster y gellir ei olygu
Lawrlwythwch ein poster gwag, y gallwch chi ei olygu i ddangos gwybodaeth am eich llyfrgell chi a’i ddigwyddiadau.
Opsiwn un
Lawrlwythwch fersiwn gyntaf ein tystysgrif Anturiwr Amser Stori BookTrust Cymru i wobrwyo teuluoedd a phlant sy’n ymweld â’r llyfrgell.
Opsiwn dau
Lawrlwythwch ail fersiwn ein tystysgrif Anturiwr Amser Stori BookTrust Cymru i wobrwyo teuluoedd a phlant sy’n ymweld â’r llyfrgell.
Rhigymau
Lawrlwythwch y rhigymau hwyliog a geir yn llyfr sticeri Amser Stori BookTrust Cymru
Gweithgareddau
Ewch ati i liwio a glynu gyda’r taflenni gweithgaredd hwyliog hyn sy’n seiliedig ar lyfrau Amser Stori BookTrust Cymru
Rhwyfau
Argraffwch y darluniau rhwyf hwyliog hyn a’u glynu wrth ffyn lolipop – yna gallwch eu rhoi i’r plant i’w defnyddio adeg amser stori!
Cerdyn Facebook
Defnyddiwch y cerdyn cymdeithasol hwn i hysbysebu Amser Stori BookTrust Cymru ar eich tudalen Facebook.
Cerdyn Instagram
Defnyddiwch y cerdyn cymdeithasol hwn i hysbysebu Amser Stori BookTrust Cymru ar eich tudalen Instagram.
Cerdyn Twitter
Defnyddiwch y cerdyn cymdeithasol hwn i hysbysebu Amser Stori BookTrust Cymru ar eich tudalen Twitter
Pennawd cylchlythyron
Mynnwch bennawd cylchlythyron i hysbysebu Amser Stori BookTrust Cymru ar eich negeseuon e-bost.