“Rydyn ni wedi cael trafferth erioed i gael Amser Stori a fynychir yn dda. Drwy gysylltu â’n meithrinfa leol i ymuno â ni, mae gennym Amser Stori rheolaidd yn digwydd nawr, er ein bod wedi gorffen y chwe llyfr, ac mae hyn wedi annog cyswllt cadarnhaol â’r feithrinfa ar gyfer digwyddiadau eraill”
Gweithio gyda phartneriaid (fel canolfannau plant a meithrinfeydd) i gyrraedd at deuluoedd newydd
Rydym yn gwybod y gall gymryd amser i ddatblygu cysylltiadau â theuluoedd newydd. Dyna pam y mae modd darparu Amser Stori BookTrust Cymru ar adeg sy'n addas i'ch llyfrgell chi drwy gydol 2024-25.
Gall gweithio gyda phartneriaid sydd eisoes wedi meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd eich galluogi i achub y blaen wrth hyrwyddo’ch digwyddiadau.
Mewn blynyddoedd blaenorol, cafodd llyfrgelloedd lwyddiant wrth ymgysylltu â meithrinfeydd lleol, canolfannau plant, grwpiau babanod a phlant bach a llawer mwy.
Lledu'r gair
- Defnyddiwch bosteri Amser Stori BookTrust Cymru i hysbysebu eich gweithgareddau. Ymysg lleoedd da i'w harddangos mae archfarchnadoedd lleol, parciau a chanolfannau cymunedol. Gellir lawrlwytho posteri o'n tudalen adnoddau.
- Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ledu'r gair! Rydyn ni'n rhannu cardiau cymdeithasol i chi eu lawrlwytho a'u defnyddio – gallwch ddod o hyd iddynt ar ein tudalen adnoddau.
“Fe ddysgon ni am y llyfrgell ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe wnaethon ni fwynhau’r sesiwn, am ein bod ni erioed wedi bod o’r blaen. Edrych ymlaen at ddod yn ôl wythnos nesaf. Byddwn, byddwn yn ei argymell i eraill.”
Cyffro o'r dechrau
Gallech greu arddangosfeydd deniadol a llawn hwyl mewn cynteddau i ddenu teuluoedd i'r ardal blant. Mae gennym bosteri y gallwch chi eu defnyddio yn y llyfrgell (gallwch chi eu lawrlwytho o'n tudalen adnoddau) hefyd!
Adnoddau hyblyg
Chi sy'n penderfynu sut i ddefnyddio'r adnoddau, oherwydd chi sy'n adnabod eich cymuned orau – ond byddem ni wrth ein bodd yn clywed beth weithiodd i chi! Anfonwch e-bost at [email protected] i roi gwybod i ni.
Sesiynau rhyngweithiol
- Gwnewch i deuluoedd deimlo'n gyfforddus. Gosodwch unrhyw ddisgwyliadau'n gynnar. Er enghraifft, gwnewch yn siŵr fod rhieni a gofalwyr yn deall ei bod hi'n iawn os nad yw eu plant yn eistedd yn llonydd a thawel.
- Meddyliwch am ystod oedran y plant yn y sesiwn. Os oes llawer o blant llai'n mynychu, ceisiwch rannu straeon byrrach.
- Cymysgwch bethau. Byddwch yn hyblyg – cofiwch gynnwys cyfuniad o rigymau a straeon rhyngweithiol i gynnal lefelau egni.
- Cynhwyswch y plant gymaint â phosib. Boed hynny drwy'u cael i ganu rhigwm gyda chi, gwneud symudiadau hwyliog, neu hyd yn oed droi tudalennau'r llyfr rydych chi'n ei ddarllen, byddan nhw wrth ei bodd i gael gwahoddiad i gymryd rhan.