Chynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru 2021/2022
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Darllen Er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar.
Mae Cynhadledd Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar BookTrust Cymru eleni'n dwyn ynghyd leisiau amlwg gan gynnwys awduron a darlunwyr llyfrau plant, sefydliadau ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal â ffigurau pwysig eraill sy'n gweithio ym maes llyfrau plant. Bydd yn archwilio pam fod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol o ran darllen er pleser a beth allwn ni ei wneud yn y Blynyddoedd Cynnar i roi cyfle i blant ifanc deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u grymuso.
Gwyddom fod dysgu am y byd, eich hunaniaeth a'r bobl o'ch cwmpas yn dechrau yn y Blynyddoedd Cynnar, a bod llyfrau straeon a rhigymau'n offer grymus y gellir eu defnyddio i helpu plant i ddeall eu profiadau byw. Pan fyddwn ni'n siarad am amrywiaeth, rydyn ni'n hyrwyddo'r angen i fod yn gynhwysol ymhob maes, er mwyn i bob plentyn a theulu deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u gwerthfawrogi.
Gellir gwneud mwy i sicrhau fod pob plentyn yn gallu gweld ei hun yn y llyfrau y bydd yn cael mynediad iddynt o oedran ifanc, a hefyd i ddarparu mynediad i lyfrau i bob plentyn er mwyn iddynt allu profid grym trawsnewidiol darllen er pleser.
Bydd y gynhadledd yn digwydd fel cyfres o weminarau ar lein dros 4 diwrnod. Bydd y gweminarau hyn ar ffurf trafodaeth banel, 2 weithdy a 4 sesiwn rhannu ymarfer, gyda chyfraniadau a mewnwelediad oddi wrth:
- Dapo Adeola, Awdur a Darlunydd Plant ac Awdur Preswyl mwyaf diweddar BookTrust
- Connor Allen, Children's Laureate Cymru 2021 – 2023
- Jo Bowers, Arbenigwr Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar
- Margaret Holt, Cydlynydd Dechrau Da, Llyfrgelloedd Caerdydd
- Natalie Jerome, Dirprwy Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru
- Jeremy Miles AS, Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg
- Ruth Morgan, Ymarferydd Cynradd Arobryn ac Awdur Plant
- Lucy Owen, Cyflwynydd ac Awdur
- Cymraeg i Blant, Rhaglen sy'n cefnogi teuluoedd â phlant ifanc i ddod â'r Gymraeg i mewn i'w cartrefi
- Cyngor Llyfrau Cymru, Elusen Genedlaethol sy'n Cefnogi'r Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru
- BookTrust, elusen fwyaf y DU ym maes darllen plant
Gwybodaeth am y Gweminarau
Teitl: Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar – Sesiwn Lawn y Gynhadledd
Dyddiad: Dydd Llun 21 Mawrth 2pm-3.15pm
Fformat: Myfyrio ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth a Darllen er Pleser yn y Blynyddoedd Cynnar: cymysgedd o gyflwyniadau a thrafodaethau wedi'u hwyluso gyda chyfraniadau gan bob un o'n siaradwyr gwadd
Yn cynnwys: Dapo Adeola, Connor Allen, Jo Bowers, Natalie Jerome, Jeremy Miles AS a BookTrust Cymru
Hwylusir gan: Lucy Owen
Iaith: Saesneg
*****
Teitl: Amrywiaeth a Chynrychiolaeth mewn Llyfrau Plant
Dyddiad: Dydd Mawrth 22 Mawrth 11.30am-12.30pm
Fformat: Gweithdy
Yn cynnwys: Ruth Morgan, Natalie Jerome
Iaith: Saesneg
*****
Teitl: Cydraddoldeb Mynediad i Ddarllen – Beth Ellir ei Wneud?
Dyddiad: Dydd Mercher 23 Mawrth 1pm-2pm
Fformat: Gweithdy
Yn cynnwys: Julie Hayward a Claire Taylor, BookTrust
Iaith: Saesneg
*****
Teitl: Llyfrau Dwyieithog i Archwilio Amrywiaeth a Chynhwysiant gyda Phlant Bach
Dyddiad: Dydd Iau 24 Mawrth 10am-11am
Fformat: Sesiwn Rhannu Arferion
Yn cynnwys: Cymraeg i Blant
Iaith: Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i Saesneg
*****
Teitl: Cyrraedd Cymunedau Drwy Ddarllen
Dyddiad: Dydd Iau 24 Mawrth 1pm-1.45pm
Fformat: Sesiwn Rhannu Arferion
Yn cynnwys: Margaret Holt, Llyfrgelloedd Caerdydd
Iaith: Saesneg
*****
Teitl: Arddangos Llyfrau Dwyieithog sy'n Archwilio Amrywiaeth a Chynhwysiant
Dyddiad: Dydd Iau 24 Mawrth 2pm-2.45pm
Fformat: Sesiwn Rhannu Arferion
Yn cynnwys: Ilid Haf, Cyngor Llyfrau Cymru
Iaith: Cymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i Saesneg
*****
Darlunio gan Diane Ewen (2022)