Cynghorion ar gyfer rhannu rhigymau a chaneuon

Dyma rai syniadau ynghylch sut y gallwch chi fwynhau rhannu rhigymau a chaneuon gyda babis a phlant bach.

Dechreuwch rannu rhigymau o’u geni

Gall babis glywed iaith cyn iddyn nhw gael eu geni. Hyd yn oed pan fyddan nhw yn y groth, maen nhw’n ymwybodol o rythmau’r iaith lafar, ac yn gallu’u cofio. Bydd rhannu rhigymau gyda phlant ifanc iawn yn eu helpu i ddod yn gyfarwydd â phatrymau iaith ac mae’n eu helpu i ddatblygu’u dealltwriaeth o sut mae iaith yn gweithio.

Rhannwch rigymau symud

Mae plant wrth eu bodd gyda rhigymau sy’n cynnwys symudiadau. Bydd babis yn dwlu ar rigymau gyda symudiadau a chyffyrddiadau, am ei fod yn gallu’u helpu i deimlo’n ddiogel ac i wybod fod rhywun yn eu caru e.e. gwneud clych ar y llaw yn Round and Round the Garden. Mae plant bach a rhai ychydig yn hŷn yn hoffi ymuno gyda symudiadau mewn rhigymau a chaneuon.

Gwnewch yn siŵr ei fod yn sbort

Peidiwch â bod ofn defnyddio lleisiau dwl i bwysleisio’r odl a’r rhythm. Ceisiwch amrywio eich llais yn uchel neu isel, yn swnllyd neu’n dawel, neu oedwch dros y geiriau sy’n odli. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i glustfeinio ar yr iaith yn y rhigwm – a bydd yn peri iddyn nhw chwerthin!

Boy enjoying a Big Welsh Rhyme Time event

Clapiwch a stampiwch eich traed i’r curiad

Gyda phlant bach a rhai ychydig yn hŷn, ceisiwch glapio neu stampio i guriad y rhigwm. Gall hyn eu helpu i deimlo rhythm y rhigwm.

Rhannwch rigymau ymhobman, ac unrhyw bryd

Does dim angen offer arbenigol ar rigymau, a gallwch eu rhannu adeg cael bath, yn y car, ar y bws, yn yr archfarchnad – yn unrhyw le! Gallwch hefyd geisio cysylltu rhigymau â’ch trefn. Rhannwch rigymau neu hwiangerddi cysurlon adeg mynd i gysgu.

Gwrandewch

Mae rhannu rhigymau a chaneuon wir yn helpu eich plentyn i wrando. Peidiwch â phoeni os na fyddan nhw’n ymuno neu ond yn ymuno ar gyfer rhan o’r rhigwm neu’r gân. Bydd clywed y rhigymau’n fanteisiol ynddo’i hun.

Awgrymiadau i ymarferwyr

Mae hi mor bwysig dathlu rhigymu ar hyn o bryd ac mae hynny’n cynnwys dod o hyd i ffordd i #CanuRhigymuGwenu yn ddiogel.

Dyma ambell air i gall y mae ymarferwyr wedi’u rhannu â ni:

  • Gallwch chi rigymu yn yr awyr agored ar ddiwrnodau sych, unrhyw adeg o’r flwyddyn
  • Anogwch deuluoedd i rigymu gartref a rhannu fideos
  • Defnyddiwch fideos o rigymau ar-lein a chael y plant i wneud yr ystumiau gyda’r rhigwm yn y dosbarth ac yna cyfuno’r ystumiau â’r rhigwm gartref
  • Sesiynau rhigymu byw ar Facebook
  • Mae plant a theuluoedd wrth eu boddau’n gweld athrawon yn rhigymu, yn canu ac yn eu hannog i ymuno â’r hwyl; gwnewch fideo o athrawon yn perfformio rhigwm a’i anfon adref i blant a theuluoedd ei wylio a rhigymu gydag ef gartref
  • Gofynnwch i’r plant wisgo fel cymeriad o rigwm ac anfon fideo ohonyn nhw’n perfformio’r rhigwm wrth actio’r cymeriad
  • Crëwch fideo yn dathlu rhigymau; golygwch fideos o’r plant yn rhigymu gartref i greu un fideo ar gyfer y dosbarth
  • Adroddwch y rhigymau – defnyddiwch symudiadau a rhythm i’w gwneud yn hwyl. Tybed allwch chi drosi hwiangerdd gyfarwydd yn rap?

Rhigymau a datblygiad iaith – beth y mae’r arbenigwyr yn ei ddweud