Diwrnod 2 Antur Gofodwr / A Spaceman’s Adventure & Roced Roc a Rôl (Am yn ôl) / The Rock and Roll Rocket
Heddiw rydyn ni’n saethu i’r gofod gyda’r awdur ac actor Iwan Garmon.
Dyma ddywedodd Iwan: ‘Mae rhigwm, odl a chân yn allweddol er mwyn datblygu sgiliau ieithyddol a chyfathrebu mewn plant (ac oedolion!), felly cefais foddhad mawr yn creu adnoddau oedd yn hybu’r sgiliau hynny. Mae hi hefyd yn hanfodol cael hwyl, wrth gwrs!’