Cyfansoddwyd cân heddiw gan Laura Bradshaw (Tiwtor Canu Cymunedol a Cherddor) a Joseph Gnagbo (Ieithydd ac Athro).
Dyma ddywedodd Laura: ‘Pleser pur yw creu caneuon a rhigymau, ac mae ein cân fach ni am y ‘wenynen fach brysur’ yn dangos odlau Cymraeg a Saesneg, ond mae hefyd yn rhoi sylw i bwysigrwydd y ‘gwenyn distadl’. Dyna anrhydedd cael y bobl ifancaf yn ein hysgol i’w dysgu, a chael eu hysbrydoli, gobeithio, i greu’u rhigymau’u hunain.’
Lawrlwytho taflen ar gyfer cân Bore Da Little Bee / Good Morning Little Bee.
Os hoffech chi dreulio mwy o amser yn archwilio rhigymau a chaneuon am chwilod a thrychfilod, edrychwch ar y dolenni isod i gael mwy o hwyl gydag odlau a rhigymau.