Gwrandewch ar y rhigymau
Rydym ni wedi dewis rhai o’n hoff rigymau Cymraeg a Saesneg y gallwch chi eu mwynhau gyda’ch gilydd unrhyw bryd, unrhyw le!
Babis
Mae babis wrth eu bodd yn clywed rhigymau sy’n rhannu teimlad hapus neu gariadus. Byddan nhw’n ymateb i rigymau sy’n dangos cariad ac anwyldeb, gan gynnwys rhigymau â symudiadau neu gyfle i gyffwrdd e.e. gwneud cylch ar eu llaw wrth ddweud Round and Round the Garden, neu chwarae â bysedd eu traed wrth ddweud This Little Piggy. Mae babis yn hoffi rhigymau â geirfa syml, llawer o ailadrodd a rhythm cryf.
Rydyn ni wrth ein bodd â Cheek, Chin, Nose a’r holl ganeuon hyn gan Dechrau Da Sir Ddinbych oherwydd eu bod nhw’n rhigymau tyner, difyr sy’n llawn cariad ac ystumiau i wneud i’ch babi wenu.
Plant bychain
Mae plant bychain wrth eu bodd â rhigymau sy’n rhoi cyfle i symud a gweithredu, gan gynnwys clapio, stompio a neidio. Gall rhigymau sy’n swnllyd a thawel, neu rhai sy’n gofyn i’r plant aros ar gyfer symudiad penodol neu gyfle i ymuno neu weithredu eu helpu i ddatblygu sgiliau gwrando a chanolbwyntio.
Mae Down in the Jungle yn rhigwm hynod ddifyr gyda llawer o ystumiau i blant eu mwynhau. Gallwch chi ei wneud yn fwy fyth o hwyl trwy ganu’r gytgan yn uchel iawn neu’n dawel iawn, neu helpu’r plant i ymarfer gwrando trwy wneud dim ond yr ystumiau ar gyfer rhai o’r geiriau a chael y plant i’w canu.
Mae Mistar Crocodeil ydw i yn rhigwm difyr a syml gydag ystumiau anifeiliaid sy’n hwyl. Gallwch chi ddewis eich anifeiliaid eich hun neu ofyn i’ch plant pa anifeiliaid y maen nhw eisiau eu hychwanegu. Ceisiwch wneud synau’r anifeiliaid yn uchel iawn neu’n dawel iawn, neu ceisiwch ganu’r gân yn gyflym iawn.
Diolch i dîm Dechrau Da Sir Ddinbych am rannu’u rhigymau. Mae mwy i’w gweld ar eu sianel YouTube.
Meithrin a Derbyn
Mae plant ychydig yn hŷn yn dwlu ar rigymau hwyliog â digon o symud. Bydd plant yr oedran hwn yn aml yn dechrau cofio rhigymau neu rannau o rigymau ac maen nhw’n debygol o ymateb i heriau. Rhowch gynnig ar rannu rhigwm â phatrwm clapio, cyfri, neu rywbeth sy’n herio’r cof. Mae hi hefyd yn hwyl ceisio newid geiriau rhigymau gyda phlant e.e. newidiwch yr ystumiau yn If You’re Happy and You Know It, neu newid yr anifeiliaid yn Fferm Tad-cu.
Gallwch ddod o hyd i lawer o’n hoff rigymau yn Gymraeg a Saesneg yn ein rhaglen Pori Drwy Stori.
Cliciwch yma i wylio fideos o’n hoff rigymau i blant y Meithrin a defnyddiwch y rhestrau chwarae isod i wrando ar ein hoff rigymau ar gyfer plant y Derbyn.