I ffwrdd â ni i rigymu ag Amser Rhigwm Mawr Cymru!
Rhowch wybod inni beth yw'ch hoff rigwm i gael cyfle i ennill y llyfr newydd gwych Jellybeans a Daydreams a gyhoeddwyd gan Firefly Press ar gyfer eich teulu, eich ysgol, eich llyfrgell neu unrhyw un o'ch hoff leoliadau.
Mae yna lond gwlad o rigymau, yn amrywio o ‘Mi Welais Jac y Do’ i ‘Mistar Crocodeil ydw i’. Rydyn ni’n eu caru nhw i gyd...ond rydyn ni nawr eisiau gwybod pa un yw’ch hoff rigwm chi! O fodern i glasurol, ac o ddoniol i gysglyd, pa un ydych chi a’ch plant yn mynd yn ôl ato drosodd a throsodd?
Y cyfan y mae angen ichi ei wneud yw llenwi’r ffurflen isod cyn y 11pm ddydd Sadwrn, 20 Chwefror 2021. Pob lwc, a rhigymu hapus!