English Cymraeg

Cefnogi Rhieni, Gofalwyr a Theuluoedd

Rydym yn cefnogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd i ddarllen gyda’u plant o’u dyddiau cynharaf oherwydd mae rhannu straeon gyda’i gilydd yn rheolaidd, yn y blynyddoedd cynnar a thu hwnt, yn dod â manteision trawsnewidiol sy’n newid bywydau.

Rhannu Llyfrau a Straeon

Gall dod o hyd i rywfaint o amser gyda’ch gilydd i rannu stori neu lyfr gyda’ch plentyn: 

  • helpu eich plentyn i ddysgu geiriau a mynegi ei hun.
  • ei helpu i deimlo’n agos atoch a theimlo’r cysylltiad rhyngoch.
  • ei addysgu am y byd ac am wahanol fathau o bobl.
  • bod yn ymlaciol a helpu eich plentyn i ddysgu sut i reoli ei deimladau. 
  • sbarduno ei ddychymyg a’i greadigrwydd – efallai y gwelwch chi’r rhain wrth iddo chwarae esgus ac yn y straeon y bydd yn eu gwneud! 

Does dim rhaid i chi ddarllen llyfr o glawr i glawr, cael yr holl eiriau’n iawn neu hyd yn oed eu darllen nhw o gwbl (gallwch chi siarad am y lluniau!) i brofi’r manteision hyn.

Rydyn ni yma i helpu

  • Os hoffech chi ddod o hyd i syniadau am lyfrau gwych ar gyfer oedran a cham eich plentyn, edrychwch yn y Chwilotwr Llyfrau 
  • Os nad ydych chi’n siŵr sut i ennyn diddordeb eich plentyn mewn llyfrau a straeon a’i gadw, mae gennym rai awgrymiadau yma: Darllen gyda’ch gilydd gartref
  • Os ydych chi eisiau dod o hyd i rai gweithgareddau i’w gwneud o gwmpas straeon a darllen i ymestyn yr hwyl, edrychwch hefyd ar cael hwyl gartref home

Dywedwch wrthyn ni beth ydych chi’n ei feddwl

Os ydych chi wedi derbyn un o’n pecynnau Dechrau Da Babi neu Blant Bach, cofiwch lenwi ein harolwg adborth byr i gael cyfle i ennill taleb Amazon gwerth £100!

Cwblhewch yr arolwg

Rhaglenni a Chymorth

Adnoddau Defnyddiol

Cyfrannwch Heddiw!

Gwnewch rodd i BookTrust i helpu i drawsnewid bywydau trwy gael plant i ddarllen

Cyfrannwch Heddiw