Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Cynlluniwyd ein rhaglen Blynyddoedd Cynnar ddwyieithog i blant er mwyn cefnogi teuluoedd i ddarllen a rhannu straeon gyda’i gilydd.

Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar: beth sydd yn y pecynnau?

Llyfrau, gweithgareddau a chynghorion ym mhecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar a gynigir yn Gymraeg a Saesneg 

Fel arfer, rhoddir pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yn anrheg adeg gwiriad iechyd 27 mis eich plentyn. Mae’n cynnwys llyfr stori a llun dwyieithog, taflen yn llawn o syniadau am rannu llyfrau, straeon a rhigymau, a thaflen sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch ymuno â’ch llyfrgell leol.

Os nad ydych chi wedi derbyn eich pecynnau Dechrau Da, cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd os gwelwch yn dda.

Adnoddau cysylltiedig

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr