English Cymraeg

Cwblhewch ein harolwg

Ydych chi wedi derbyn un o’n pecynnau Dechrau Da Babi neu Dechrau Da i Blant Bach/​Meithrin? Rhannwch eich barn!

Mae’r arolwg hwn ar gyfer rhieni neu ofalwyr sydd wedi derbyn un o’n pecynnau Dechrau Da Babi neu Dechrau Da i Blant Bach neu Feithrin. Rydym yn awyddus iawn i glywed beth rydych chi’n ei feddwl a bydd eich adborth yn helpu BookTrust i wella’r gefnogaeth mae’n ei rhoi i blant a theuluoedd.

Trwy gwblhau’r arolwg gallech chi ennill taleb Amazon gwerth £100! 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, yna cysylltwch â’r tîm yn: [email protected]

Ynglŷn â’r arolwg

  • Ni fydd yr arolwg yn cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.
  • Bydd yn gwbl gyfrinachol.
  • Dim ond at ddibenion ymchwil rydym yn defnyddio eich data personol a gallwch chi ddewis peidio â darparu eich manylion cyswllt os byddai’n well gennych beidio â gwneud hynny.
  • Efallai y byddwn yn defnyddio unrhyw ddyfyniadau rydych chi’n eu rhoi yn ein deunyddiau adrodd neu hyrwyddo allanol, ond byddai’r rhain yn gwbl ddienw.
  • Os hoffech chi ddarllen ein polisi preifatrwydd ymlaen llaw, cliciwch yma.

Dolen arolwg Dechrau Da Babi

Dolen arolwg Dechrau Da i Blant Bach/​Meithrin