Amser Rhigwm Mawr Cymru

Amser Rhigwm Mawr Cymru yw ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Mae’n bwrlwm y rhigwm i bawb!

Child plays with puppet while laughing.

Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl rhwng 2 – 6 Chwefror 2026, a byddem ni’n falch pe gallech chi ymuno. 

Bydd llawer o gynnwys newydd gwych yn Gymraeg a Saesneg gan gynnwys caneuon, rhigymau a fideos y gellir eu rhannu â theuluoedd a phlant ledled Cymru, a hoffem annog pawb sy’n gweithio gyda phlant rhwng 0–5 oed gymryd rhan. 

Gellir hawlio tystysgrifau a sticeri rhad ac am ddim yn ystod y cyfnod cofrestru, gyda dewis tystysgrif ddigidol os nad yw’r adnoddau wedi’u hargraffu ar gael mwyach. 

Ym mis Chwefror 2025 cafodd dros 29,000 o blant hwyl wrth gymryd rhan gartref neu yn yr ysgol, y feithrinfa neu leoliad blynyddoedd cynnar arall.

Gallwch ddod o hyd i’r holl rigymau a gweithgareddau newydd gwych, a grëwyd yn arbennig ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025 isod.

Mwynhewch y rhigymu!

Darluniwr: Paul Nicholls 

Rhigymau newydd ar gyfer 2025

Hyd yn oed mwy o odlau

Adnoddau odli

Mwynhewch gyda rhigymau a chaneuon

Beth y mae’r arbenigwyr yn ei ddweud