Byd Hud o Gerddoriaeth Gan Branwen Gwyn

Dewch i ddarganfod hudoliaeth cerddoriaeth a seiniau gyda Branwen Gwyn yn y rhigwm newydd hyfryd o soniarus. Ymunwch yn yr hwyl gyda fideos rhigwm yn Gymraeg a Saesneg, ynghyd â gweithgareddau i’w hargraffu.

Gwyliwch y fideo rhigwm yn Gymraeg

Gwyliwch y fideo rhigwm yn Saesneg

Am Branwen Gwyn

Daw Branwen o Gaerdydd, ble mae’n dal i fyw, gydag Elis ei gŵr ac Esyllt eu merch. Dechreuodd ganu’r piano yn bedair oed, gan ennill un o ysgoloriaethau’r Associated Board of the Royal Schools of Music yn ei harddegau. Dechreuodd gyfeilio yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a dydy hi ddim wedi stopio ers hynny! Astudiodd Branwen Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ble bu’n arbenigo mewn perfformio ar y trwmped. Dechreuodd ei gyrfa’n cyflwyno rhaglenni plant ar S4C, a rhwng 2000 a 2010 bu’n wyneb cyfarwydd ar raglenni fel Wedi 7, Eisteddfod yr Urdd a’r Ŵyl Gerdd Dant. Camodd Branwen ar lwyfannau ledled Cymru yn 2004/2005 wrth actio rhan y chwaraewr corn ffliwgel, Gloria yng nghynhyrchiad llwyddiannus Clwyd Theatr Cymru o Brassed Off. Er iddi dreulio cyfnod y tu ôl i’r camera fel cynhyrchydd, mae bellach wedi dychwelyd i’r sgrin i gyflwyno bwletinau’r Tywydd i’r BBC ar S4C. 

Mae Branwen hefyd yn gweithio fel cyfieithydd llawrydd (enillodd radd MA mewn Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol o Brifysgol Aberystwyth yn 2018) ac yn sgriptio a chyfansoddi geiriau caneuon ar gyfer rhaglenni plant. 

Yn ei hamser hamdden, mae Branwen yn aelod o gôr arobryn Côrdydd, a hi yw’r gyfeilyddes ers cyd-sefydlu’r côr yn 2000. 

Mae’n wych bod yn rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru, a rhannu fy angerdd am gerddi a cherddoriaeth. Gobeithio y bydd plant yn cael eu hysbrydoli i ddwlu ar eiriau a nodau!

Branwen Gwyn, Cyflwynydd, Cerddor, Sgriptiwr

Mwy o rigymau