Picnic Gan Patricia Sumner

Ymunwch â Patricia Sumner ar gyfer picnic perffaith yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a ysbrydolwyd gan deulu a bwyd, gyda gweithgareddau ryseitiau i’w hargraffu gan Daffodil Kitchen.

Gwyliwch y fideo rhigwm dwyieithog

Am Patricia Sumner

Magwyd Patricia Sumner ar Ynys Môn ac mae hi bellach yn byw yn Nyffryn Clwyd. Arferai fod yn athrawes ysgol gynradd, ond mae hi’n cynnal ei busnes ysgrifennu, golygu a phrawfddarllen ei hunan erbyn hyn, Writing & Editing – Cilan

Mae Pat wedi dwlu ar ysgrifennu creadigol erioed. Cyhoeddodd dri chasgliad o farddoniaeth, llyfrau addysgol a sawl stori i blant – gan gynnwys nofel ffantasi o’r enw The Globbatrotter’ (Gwasg Ginger Fyre). Disgwylir i’w llyfr stori a llun doniol sy’n odli, Who is Fairy Nuff?’ gael ei lansio yn y gwanwyn. 

Ar hyd y blynyddoedd enillodd Pat wobrau am rai o’i cherddi a dramâu. Mae hi hefyd yn dysgu ysgrifennu creadigol i oedolion. 

Am Susan Davies

Mae Susan Davies wedi creu ryseitiau blasus i gyd-fynd â rhigwm Picnic’. 

Cafodd Susan Davies ei magu yng ngogledd Cymru ac mae hi’n byw yn Llundain erbyn hyn. Ar ôl astudio Lletygarwch a Rheoli Arlwyo yn y brifysgol, teithiodd Susan yn eang, gan weithio yn y diwydiant. Ar ôl dychwelyd i Brydain, gweithiodd ym myd addysg fel cyfarwyddwr y Sefydliad Hyfforddi Lletygarwch. Cafodd ei magu i gael cariad at fwyd a choginio, ac mae bellach yn rhannu’u hangerdd drwy’i blog bwyd, Daffodil Kitchen. Ysbrydolir ei ryseitiau gan ei theithiau; maen nhw’n driw, ond hefyd yn bosib eu cyflawni, hyd yn oed gan y cogydd mwyaf dibrofiad. Mae hi’n hoffi coginio o’r dechrau’n deg, gan ddefnyddio cynhwysion tymhorol, sy’n hawdd cael gafael arnyn nhw, ble bynnag rydych chi’n byw. 

Am Eleri Parry

Mae Eleri Parry yn wneuthurwr ffilmiau a chyfarwyddwr celf o Gaernarfon, gogledd Cymru. Gwreiddir ei gwaith yn ei hangerdd dros chwedleua gweledol a ysbrydolir gan ddelweddaeth freuddwydiol ac estheteg atgofus ar draws ystod o gyfryngau. Graddiodd o Brifysgol y Celfyddydau Creadigol yn Farnham, Surrey gyda BA (Anrh) mewn Cynhyrchu Ffilm, gan arbenigo mewn dylunio cynhyrchu. Mae’n parhau i ymestyn ei hymarfer drwy ymgymryd â phrosiectau ar y cyd ac ar ei phen ei hunan, gan sicrhau fod pob menter greadigol wedi deillio o adrodd straeon sy’n weledol gryf. 

Dysgwch ragor am Eleri.

Am Menai Rowlands

Mae Menai Rowlands yn gynllunydd, darlunydd a gwneuthurwr o Lanfaglan, gogledd Cymru. Mae’n dwyn ei hysbrydoliaeth o’r dirwedd leol, atgofion, technoleg a ffurfiau natur, i ddwyn syniadau’n fyw drwy gyfrwng cyfryngau amlddisgyblaethol, Mae cydweithio a chynnwys ymgysylltiad cyhoeddus yn rhywbeth sy’n digwydd yn aml yn ei hymarfer. Graddiodd â BA (Anrh) mewn Dylunio Cynnyrch o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Gallwch ddysgu mwy am Menai.

Dilynwch Menai ar Instagram a Facebook.

Pan oeddwn i’n blentyn, fe wnaeth cerddi fy annog i ddarllen a dysgu. Felly dwi wrth fy modd o allu rhannu rhigwm gyda phlant fel rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru.

Patricia Sumner, Bardd, Awdur Plant, Golygydd

Ryseitiau a delweddau o’r bwyd gan Susan Davies 

Fideo gan Eleri Parry 

Darluniau gan Menai Rowlands 

Diolch arbennig i blant Ysgol Gellifor 

Mwy o rigymau