Campfa’r Anifeiliaid Gan Rhiannon Oliver
Dewch i symud gyda Rhiannon Oliver a’r holl anifeiliaid yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a bywiog hwn, ynghyd â thaflenni darlunio a gweithgaredd i’w hargraffu. Cofiwch am y fideo bonws hefyd!
Gwyliwch y fideo rhigwm dwyieithog
Gwyliwch y fideo bonws yn Gymraeg
Am Rhiannon Oliver
Mae Rhiannon Oliver yn fardd, actores, hwylusydd gweithdai, ac arweinydd amser stori blynyddoedd cynnar, a leolir yng Nghaerdydd. Hyfforddodd fel actores yn y Royal Academy of Dramatic Art (RADA) ac mae hi wedi gweithio mewn theatrau fel The National Theatre, Globe Shakespeare, a Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd ‘Fresh’, casgliad cyntaf Rhiannon o farddoniaeth i blant 8+ oed yn cynnwys darluniau gan Chris Riddell ac fe’i cyhoeddir gan Wasg Firefly ym mis Ebrill 2026. Gellir gweld ei cherddi mewn blodeugerddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen, Macmillan Children’s Books, a Gwasg Firefly. Cafodd ei gwaith ei gyhoeddi’n eang mewn cylchgronau a gwefannau barddoniaeth i blant, gan gynnwys The Caterpillar, Tyger Tyger, The Toy, The Dirigible Balloon, Northern Gravy, a Paperbound. Bydd Rhiannon yn ymweld yn gyson ag ysgolion a lleoliadau cymunedol i gynnal gweithdai ysgrifennu a pherfformio barddoniaeth.
Mae Rhiannon yn ddysgwr Cymraeg lefel uwch. Cymerodd ran yn Amser Rhigwm Mawr Cymru 2023 ac mae hi wrth ei bodd o allu dychwelyd yn 2026.
Am Leonie Servini
Mae Leonie Servini yn artist a darlunydd llyfrau plant.
Daw’n wreiddiol o ardal wledig yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond Caerdydd yw ei chartref bellach.
Mae Leonie wrth ei bodd gyda gweld pobl yn gwenu ar ei darluniau.
Ei gwaith ‘How are you feeling, Little Mouse?/ Sut wyt ti’n teimlo, Llygoden Fach?’ oedd Llyfr y Dydd BookTrust a Llyfr y Mis BookTrust Cymru ym mis Hydref 2023.
Cynhwyswyd teitl diweddaraf Leonie, gyda’r awdur Mari George, ‘Sally’s Tale/Diwrnod Cyntaf Wini’ yng Nghanllaw Llyfrau Gwych 2025–26 BookTrust.
Dwi wrth fy modd o fod wedi cyfansoddi rhigwm symud dwyieithog newydd ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru. Dewch i ni baratoi am rywfaint o hwyl wrth rigymu!
Rhiannon Oliver, Bardd, Perfformiwr
Darluniau gan Leonie Servini
Mwy o rigymau
-
Dewch i ddarganfod hudoliaeth cerddoriaeth a seiniau gyda Branwen Gwyn yn y rhigwm newydd hyfryd o soniarus. Ymunwch yn yr hwyl gyda fideos rhigwm yn Gymraeg a Saesneg, ynghyd â gweithgareddau i’w hargraffu.
-
Ymunwch â Patricia Sumner ar gyfer picnic perffaith yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a ysbrydolwyd gan deulu a bwyd, gyda gweithgareddau ryseitiau i’w hargraffu gan Daffodil Kitchen.