Y Goeden Barau
Cewch hwyl gyda geiriau ag iaith yn y gerdd ddwli hwyliog, ddwyieithog am sanau unigol, ac o ble y gallent ddod.
Am Tracey Hammett
Mae Tracey Hammett yn awdur, awdur sgriptiau, yn fardd a thiwtor ysgrifennu creadigol. Mae hi’n ysgrifennu i blant ac oedolion. Roedd hi’n aelod o’r Southbank New Poets Collective o 2022–2023.
Mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr lluniau: Dim Bwystfilod! (stori odli wedi’i darlunio gan Jan McCafferty, addasiad gan Anwen Pierce) a Cadi’r Ci yn Cael Gwaith (darluniwyd gan Angie Stevens, addasiad gan Anwen Pierce). Cyhoeddir y ddau lyfr gan Graffeg yn Gymraeg a Saesneg. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu nifer o sgriptiau ar gyfer teledu plant. Ei stori fer, Bare Earth, oedd enillydd Lambeth yng Nghystadleuaeth City of Stories.
Ganwyd hi yng Nghaerdydd ac mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Llundain a’r Barri, yn Ne Cymru, lle mae ei theulu’n byw.
Fel un sy’n hoff o iaith a rhigwm, mae’n bleser gen i fod yn rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru gan BookTrust Cymru. Dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers sbel ac er fy mod ymhell o fod yn rhugl, mae wedi bod yn bleser ceisio ysgrifennu cerdd syml sy’n ymgorffori’r ddwy iaith.
Tracey Hammett, Bardd ac Awdur
Mwy o rigymau
-
Mae’r gerdd ddwyieithog wych yn ddathliad o iaith, symud a natur. Ydych chi’n gallu symyd fel yr anifeiliaid yn y rhigwm?
-
Cyd-ganwch gyda’r adar a dysgu i adnabod eu cân yn Gymraeg a Saesneg yn y rhigwm hwyliog yma.