Tyrd Gyda Fi!

Mae’r gerdd ddwyieithog wych yn ddathliad o iaith, symud a natur. Ydych chi’n gallu symyd fel yr anifeiliaid yn y rhigwm?

Am Krystal S. Lowe

Mae Krystal S. Lowe yn awdur, bardd ac awdur sgrin o Fermuda a leolir yng Nghymru, y mae’i gwaith yn archwilio themâu hunaniaeth croestoriadol, llesiant meddyliol, a grymuso. Drwy’i gyrfa helaeth fel dawnswraig a choreograffydd cafodd y pleser o blethu’i hysgrifennu gyda symud i gru gweithiau theatr dawns ar gyfer y llwyfan, llecynnau cyhoeddus, a ffilm.

Mae Krystal wedi ysgrifennu ffilmiau byrion gan gynnwys Daughters of the Sea’ ar gyfer Ffilm Cymru, BBC Arts, BBC Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru; Somehow’ ar gyfer Music Theatre Wales; Complexity of Skin’ ar gyfer Y Lle ar gyfer Culture in Quarantine y BBC; a Seven’ ar gyfer Ffilm Cymru a Rhwydwaith BFI Cymru. Law yn llaw â’i gwaith ysgrifennu i sgrin, fe hunan-gyhoeddodd Krystal lyfr dwyieithog i blant Whimsy’ sydd ar gael mewn llyfrgelloedd yng Nghymru a Bermuda. Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer cydweithrediad Wales Arts Review â The Guardian, Animated Magazine People Dancing, ac wedi cyfranu at Woman’s Wales?’ gan Parthian Books.

A hithau’n llawn ymroddedig i rannu llawenydd ysgrifennu gyda phobl ifanc, hwylusodd Krystal weithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer Llenyddiaeth Cymru fel rhan o’u rhaglen Cymru Ni. Mae Krystal yn angerddol o blaid integreiddio mynediad, ac yn awyddus i ddatblygu’i hymarfer ysgrifennu dwyieithog. Eleni, cyfansoddodd ei drama ddwyieithog gyntaf, Aderyn’, a gomisiynwyd gan Ŵyl Theatr Ymylol Calon Cymru yn Llanymddyfri, yr ŵyl gyntaf o’i bath.

Ar ôl treulio blynyddoedd o wylio Amser Rhigwm Mawr Cymru, mae hi’n hynod gyffrous gallu cyfrannu fy ngwaith fy hunan i’r fenter ragorol hon. Drwy gyfrwng fy odlau a rhigymau, dwi wir yn gobeithio y gall plant deimlo cyffro geiriau a sut maen nhw’n cysylltu â’n cyrff a’r byd o’n cwmpas!

Krystal S. Lowe, Bardd a Dawnsiwr

Mwy o rigymau