Cynghorion ar gyfer rhannu rhigymau a chaneuon
Dyma rai syniadau ynghylch sut y gallwch chi fwynhau rhannu rhigymau a chaneuon gyda babis a phlant bach.
Dechreuwch rannu rhigymau o’u geni
Gall babis glywed iaith cyn iddyn nhw gael eu geni. Hyd yn oed pan fyddan nhw yn y groth, maen nhw’n ymwybodol o rythmau’r iaith lafar, ac yn gallu’u cofio. Bydd rhannu rhigymau gyda phlant ifanc iawn yn eu helpu i ddod yn gyfarwydd â phatrymau iaith ac mae’n eu helpu i ddatblygu’u dealltwriaeth o sut mae iaith yn gweithio.
Rhannwch rigymau symud
Mae plant wrth eu bodd gyda rhigymau sy’n cynnwys symudiadau. Bydd babis yn dwlu ar rigymau gyda symudiadau a chyffyrddiadau, am ei fod yn gallu’u helpu i deimlo’n ddiogel ac i wybod fod rhywun yn eu caru e.e. gwneud clych ar y llaw yn Round and Round the Garden. Mae plant bach a rhai ychydig yn hŷn yn hoffi ymuno gyda symudiadau mewn rhigymau a chaneuon.
Gwnewch yn siŵr ei fod yn sbort
Peidiwch â bod ofn defnyddio lleisiau dwl i bwysleisio’r odl a’r rhythm. Ceisiwch amrywio eich llais yn uchel neu isel, yn swnllyd neu’n dawel, neu oedwch dros y geiriau sy’n odli. Bydd hyn yn helpu eich plentyn i glustfeinio ar yr iaith yn y rhigwm – a bydd yn peri iddyn nhw chwerthin!
Clapiwch a stampiwch eich traed i’r curiad
Gyda phlant bach a rhai ychydig yn hŷn, ceisiwch glapio neu stampio i guriad y rhigwm. Gall hyn eu helpu i deimlo rhythm y rhigwm.
Rhannwch rigymau ymhobman, ac unrhyw bryd
Does dim angen offer arbenigol ar rigymau, a gallwch eu rhannu adeg cael bath, yn y car, ar y bws, yn yr archfarchnad – yn unrhyw le! Gallwch hefyd geisio cysylltu rhigymau â’ch trefn. Rhannwch rigymau neu hwiangerddi cysurlon adeg mynd i gysgu.
Gwrandewch
Mae rhannu rhigymau a chaneuon wir yn helpu eich plentyn i wrando. Peidiwch â phoeni os na fyddan nhw’n ymuno neu ond yn ymuno ar gyfer rhan o’r rhigwm neu’r gân. Bydd clywed y rhigymau’n fanteisiol ynddo’i hun.
-
Mae rhigymau a hwiangerddi’n nodwedd gyffredin mewn plentyndod. Bydd plant wir yn mwynhau’r rhythm a’r ailadrodd, wrth eu llafarganu, eu darllen, eu dweud neu’u canu.