Gwyliwch y fideos isod i ddarganfod mwy, ac i gael syniadau ar sut i ddechrau arni.
English
Cymraeg
Darllen gyda’ch gilydd gartref
Mae rhannu straeon gyda’ch plentyn yn ffordd wych o gael eiliad o agosatrwydd, chwerthin a siarad gyda’ch gilydd. Gall hefyd ei helpu i ddysgu mwy am y byd o’i gwmpas.

Hud rhannu straeon gartref
Nodwch fod y fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae darllen yn rhoi eu byd eu hunain iddyn nhw – mae’r geiriau yno, ond mae’n dod yn fyw yn eu meddwl
Dad, ar hud darllen gartref
Manteision anhygoel rhannu straeon gyda’ch plentyn
Nodwch fod y fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ffyrdd hawdd o wneud rhannu straeon yn hwyl
Nodwch fod y fideo hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Sut ydw i’n dechrau?
Os nad ydych chi’n teimlo’n hyderus am ddarllen yn uchel neu rannu llyfrau, peidiwch â phoeni – does dim ffordd gywir neu anghywir o fwynhau stori gyda’ch gilydd. Ond os hoffech chi rai awgrymiadau, dyma rai i’ch helpu chi.
- Swatiwch i fyny gyda’ch gilydd. Gallech chi annog eich plentyn i ddal y llyfr ei hun a throi’r tudalennau hefyd
- Neu, beth am fynd â llyfr allan gyda chi pan fyddwch chi’n mynd am dro? Dysgwch am wahanol fwystfilod bach, yna chwiliwch amdanyn nhw yn y parc
- Ceisiwch fod yn un o’r cymeriadau. Gallwch chi wneud lleisiau gwirion a symudiadau – bydd eich plentyn wrth ei fodd!
- Gellir darllen unrhyw bryd, unrhyw le. Ar y bws, yn y parc – mae llyfrau’n wych ar gyfer adloniant cyflym
- Does dim rhaid i chi ddarllen llyfr o glawr i glawr, gallwch chi bori drwyddo fel y mynnwch
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael hwyl! Cofiwch, does dim ffordd gywir neu anghywir o rannu stori – dewch o hyd i’r ffordd sy’n gweithio i chi a’ch plentyn.