Amser Stori BookTrust
Mae Amser Stori BookTrust yn brofiad cyffrous yn y llyfrgell ar gyfer teuluoedd, sy’n cynnig ffordd hwyliog, hawdd a rhad ac am ddim o ddifyrru plant dan 5 oed mewn llyfrgelloedd lleol.

Beth yw Amser Stori BookTrust?
Amser Stori BookTrust yw ein rhaglen i Lyfrgelloedd, a weithredir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd, a gynlluniwyd i gefnogi llyfrgelloedd i ysbrydoli teuluoedd incwm isel gyda phlant 0–5 oed i rannu straeon gyda’i gilydd a pheri fod ymweld â’r llyfrgell yn rhan o fywyd beunyddiol. Mae’n rhan o daith Blynyddoedd Cynnar BookTrust, sydd hefyd yn cynnwys rhaglen Dechrau Da Plant Bach a Chyn Ysgol.
Rydyn ni bellach ym mhedwaredd flwyddyn y rhaglen gyffrous hon, a addysgwyd gan waith gyda llyfrgelloedd a theuluoedd, adborth o flynyddoedd blaenorol, a phrofiad ac arbenigedd ehangach BookTrust.
Adnoddau Amser Stori
Dysgwch beth fydd yn cael ei gyflenwi i’ch llyfrgell a’r adnoddau ychwanegol y gallwch chi eu defnyddio i ddarparu Amser Stori BookTrust.
-
Dyma rai syniadau ac adnoddau er mwyn helpu i ddod ag Amser Stori BookTrust yn fyw.
Darganfod llyfrau Amser Stori BookTrust am eleni
Rydyn ni wedi dewis pum llyfr rydyn ni’n meddwl sy’n berffaith ar gyfer eu mwynhau gyda phlant 0–5 oed! Mae llyfrgelloedd sy’n cymryd rhan yn Amser Stori BookTrust wedi bod yn rhannu’r llyfrau hyn, ac mae teuluoedd wedi bod yn pleidleisio dros eu ffefrynnau.
Beth mae ein partneriaid yn ei ddweud
“Roeddwn i’n hollol wrth fy modd gyda sesiynau Amser Stori. Fe wnaethon ni ffrindiau â phobl a ddaeth i’r llyfrgell am y tro cyntaf yn eu bywyd, ac maen nhw’n dychwelyd nawr fel benthycwyr rheolaidd, Rydyn ni wedi adeiladu perthynas anhygoel gyda’r Ganolfan Blant ac rydyn ni’n fwy ymwybodol o’r gwasanaethau maen nhw’n eu darparu ar gyfer teuluoedd. Byddwn ni’n cydweithio o ran helpu teuluoedd lleol gydag iechyd meddwl, bwydo o’r fron, a chefnogi datblygiad plant.”
Llyfrgellydd, Swydd Northampton
-
Dan ofal gwirfoddolwyr, mae Llyfrgell Chew Valley ym mhentref Bishop Sutton yn un o blith sawl llyfrgell gymunedol yng Nghaerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf. Dyma’r gwirfoddolwr Angela Cruse i ddatgelu sut mae Amser Stori BookTrust wedi’u harfogi â’r hyn sydd ei angen arnynt i lansio sesiynau rhyngweithiol ar gyfer teuluoedd.
Amser Stori BookTrust i deuluoedd
“Mae fy wyres yn teimlo’n hapus iawn, mae hi’n edrych ymlaen ato. Bob bore, bydd hi’n dweud wrtha i, ‘Mam-gu, awn ni ZoomZoom’. ‘Zoom Zoom, we’re going to the moon’, dyna un o’i hoff gerddi (caneuon), yn amlwg all hi ddim dweud ‘llyfrgell’ eto, ond mae ‘ZoomZoom’ yn golygu llyfrgell iddi hi. Mae hi eisiau mynd i’r ZoomZoom’ bob dydd.”
Mam-gu, Mrs Ahmed, yn sôn am brofiad ei hwyres o Amser Stori BookTrust
-
Dysgwch sut allwch chi ddod yn rhan o hwyl Amser Stori BookTrust yn eich llyfrgell leol.
Pleidleisio dros Amser Stori
Lansiwyd Gwobr Amser Stori BookTrust yn 2019 i ddod o hyd i’r llyfr gorau i’w rannu â phlant 0–5 oed, ac ers 2021 bu’n rhan o raglen Amser Stori BookTrust, a gynlluniwyd i gefnogi llyfrgelloedd i ysbrydoli teuluoedd incwm isel â phlant 0–5 oed i rannu straeon gyda’i gilydd a pheri fod ymweld â’r llyfrgell yn rhan o fywyd beunyddiol.
Adroddiadau Amser Stori BookTrust
Dewch i weld beth ddysgwyd gennym yn ein diweddariadau ymchwil diweddaraf.