Dechrau Da Babi

Croeso i’r lle pwrpasol ar gyfer Dechrau Da Babi, rhaglen blynyddoedd cynnar sydd wedi’i chynllunio i helpu teuluoedd i ddarllen a rhannu straeon gyda’u plentyn cyn gynted â phosibl.

Ynglŷn â Dechrau Da Babi

Mae teuluoedd â babanod hyd at 12 mis oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gymwys i gael pecyn Dechrau Da Babi (Bookstart Baby yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) am ddim. Cynigir pecyn dwyieithog yng Nghymru. Mae’r pecynnau hyn, sy’n ffordd wych o gefnogi datblygiad cynnar, yn cael eu darparu trwy ymwelwyr iechyd, llyfrgelloedd, cofrestryddion a llawer o bartneriaid eraill sy’n gweithio yn y blynyddoedd cynnar. 

A baby or toddler is playing with a board book.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyflwyno Dechrau Da Babi yn eich lleoliad, e‑bostiwch [email protected] i ddarganfod pwy yw eich Cydlynydd Dechrau Da lleol. 

Ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae rhaglen Dechrau Da Babi yn cael ei gweinyddu a’i chydlynu gan Gydlynydd Dechrau Da sy’n gweithio gyda phartneriaid lleol, gan gynnwys ymwewyr iechyd, i ddyrannu’r adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. 

Yng Ngogledd Iwerddon, mae rhaglen Bookstart Baby yn cael ei chyflwyno yn ystod archwiliadau rheolaidd Ymwelwyr Iechyd. Cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd lleol am ragor o wybodaeth. 

Y tu mewn i’r pecynnau

Pecyn Dechrau Da Babi/​Bookstart Baby yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae pecyn Dechrau Da Babi yn cynnwys llyfr, pyped bysedd ac awgrymiadau ar gyfer rhannu straeon gyda babanod. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae’n cynnwys taflen llyfrgelloedd hefyd. Gall teitl y llyfr amrywio. I gael cipolwg y tu mewn i’r pecyn ac i ddarganfod mwy am sut a pham y gwnaethon ni ddewis cynnwys pob adnodd, gwyliwch y fideos canlynol. 

Unboxing Bookstart Baby in England and Northern Ireland (fideo Saesneg)

Unboxing Bookstart Baby yng Nghymru (Fideo Saesneg)

Ynglŷn â Dechrau Da Babi yng Nghymru (fideo Cymraeg)

Yng Nghymru a Lloegr yn unig, mae llyfrau ychwanegol ar gael mewn ieithoedd eraill ar gyfer teuluoedd y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt, ac mae canllawiau i rieni ar gael hefyd i’w lawrlwytho a’u hargraffu mewn 20 o ieithoedd. 

Gweler ein canllaw i rieni ar sut i ddarllen gyda’ch babi. 

Manteision Dechrau Da Babi

Rydym yn gwybod y gall darllen ar y cyd yn y blynyddoedd cynnar gynnig manteision anhygoel i deuluoedd a phlant, a gall Dechrau Da Babi ddarparu’r cyfleoedd i hyn ddigwydd. 

Pan gynhaliwyd arolwg o deuluoedd a oedd wedi derbyn Dechrau Da Babi, dywedon nhw fod y pecyn: 

  • Wedi eu helpu i ddysgu rhywbeth newydd am ffyrdd y gallant ddarllen neu rannu llyfrau a straeon gyda’u plentyn (74%)
  • Wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus am ddarllen gyda’u plentyn (68%)
  • Wedi eu hysgogi i ddarllen a rhannu mwy o straeon gyda’u plentyn (78%)
  • Wedi eu hysgogi i ddechrau’r arfer o ddarllen gyda’u plentyn gartref (68%)

Ffynhonnell: Y ganran o blith 623 o deuluoedd oedd yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r datganiadau uchod, Arolwg Teuluoedd Dechrau Da Babi 2024–25

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr a fyddai’n hoffi mwy o gyngor a chymorth, gallwch edrych ar ein canllaw i ddarllen gyda’ch plentyn 0–12 mis oed. 

Neu ewch i’n tudalen Bookstart Baby for parents and carers

Dechrau Da Babi: atebion i’ch cwestiynau

Mae pecynnau Dechrau Da Babi ar gyfer pob teulu â babi rhwng 0 a 12 mis oed. Mae’r rhaglen gyffredinol hon ar gael i bob teulu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gall y pecynnau gael eu rhoi unrhyw bryd cyn pen-blwydd cyntaf plentyn. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn dangos bod yr adnoddau yn fwyaf effeithiol pan fyddan nhw’n cael eu rhoi yn ystod chwe mis cyntaf bywyd babi. Mae’r ffenestr gynnar hon yn cefnogi bondio ac ymlyniad ac yn helpu teuluoedd i ddechrau rhannu llyfrau o’r cychwyn cyntaf. 

Nod Dechrau Da Babi yw annog teuluoedd i ddechrau rhannu llyfrau a straeon yn gynnar, adeiladu arferion darllen cadarnhaol o’r adeg y caiff babi ei eni, cefnogi bondio ac ymlyniad, a lleihau anghydraddoldebau trwy sicrhau bod pob teulu yn cael adnoddau darllen o ansawdd uchel am ddim. 

Rhannu’r adnoddau gyda theuluoedd a dangos sut i rannu llyfrau a chael hwyl. Annog rhieni/​gofalwyr i barhau i ddarllen yn hamddenol a heb bwysau, rhannu llyfrau fesul ychydig ac yn aml, bod yn chwareus ac yn rhyngweithiol, a dilyn arweiniad eu babi. Mwynhau gyda’i gilydd yw’r ffocws yn hytrach na darllen pob gair. 

Mae amrywiaeth o adnoddau ychwanegol ar gael ar wefan BookTrust gan gynnwys canllawiau ar ddarllen gyda babanod 0–12 mis oed, tudalen we i deuluoedd am Dechrau Da Babi, syniadau am weithgareddau i gael hwyl gartref, ac awgrymiadau am lyfrau i fabanod. 

Mae cyhoeddwyr yn caniatáu i lyfrau Dechrau Da Babi gael eu rhoi yn rhad ac am ddim, eu hyrwyddo’n lleol gan bartneriaid, a’u defnyddio mewn sesiynau rhannu straeon, fideos a’r cyfryngau cymdeithasol, ar yr amod bod y gydnabyddiaeth gywir yn cael ei rhoi. 

Dechrau Da Babi yw rhaglen blynyddoedd cynnar gyffredinol, flaenllaw BookTrust – y cam cyntaf mewn taith ddarllen gydgysylltiedig i blant 0–5 oed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Mae’r rhaglen yn cael ei gwerthuso drwy arolygon rhieni a gofalwyr, ymchwil hydredol ac adborth ansoddol. Mae tystiolaeth yn dangos bod Dechrau Da Babi yn cynyddu hyder ac amlder darllen ar y cyd ac yn annog teuluoedd i ddechrau darllen yn gynharach. 

Os oes gennych chi gwestiynau neu ymholiadau pellach, anfonwch e‑bost i [email protected]