Pori Drwy Stori

Rhaglen ddwyieithog gyffrous ydy Pori Drwy Stori, ar gyfer plant oedran dosbarthiadau Meithrin a Derbyn yng Nghymru, â’r nod o ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd, siarad a gwrando er mwyn cefnogi Dysgu Sylfaen.

A young primary school aged boy is being given a Pori Drwy Story book pack by his teacher, they are both smiling.

Am Pori Drwy Stori

Mae’r rhaglen yn darparu adnoddau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a gartref, gan annog rhieni i barhau yn eu rôl hanfodol fel partneriaid yn nysgu eu plant. Mae rhaglen Pori Drwy Stori’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Pori Drwy Stori Meithrin

Mae Pori Drwy Stori yn ysbrydoli cariad at lyfrau, straeon a rhigymau ac yn cefnogi plant i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando a rhifedd gartref ac yn y lleoliad. Darperir Pori Drwy Stori gan BookTrust Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Gall meithrinfeydd gofrestru ar gyfer rhaglen Pori Drwy Stori bob blwyddyn drwy ein porth ar-lein. Bydd gwybodaeth yn ymddangos ar y dudalen hon pan fydd cofrestriadau ar agor. Bydd lleoliadau’n dechrau derbyn eu hadnoddau rhaglen ym mis Ionawr a mis Mawrth ar gyfer tymhorau’r Gwanwyn a’r Haf.

Gwerthusiad rhaglen Feithrin (llafaredd) Pori Drwy Stori 2018–19

Negeseuon allweddol o’r gwerthusiad annibynnol o Raglen Feithrin (llafaredd) Pori Drwy Stori yng nghyd-destun prif nodau’r rhaglen:

  • Gwella deilliannau cysylltiedig â llafaredd i blant; 
  • Cynyddu ymgysylltiad rhieni/​gofalwyr â dysg eu plentyn, yn benodol o ran gweithgareddau sy’n cefnogi deilliannau llafaredd; a
  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sut y gallan nhw wella deilliannau llafaredd i blant, a’r arfer sy’n gysylltiedig â hyn, yn enwedig trwy ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.

Pori Drwy Stori Derbyn

Rhaglen ddwyieithog ydy rhaglen Dosbarth Derbyn Pori Drwy Stori, ar gyfer plant oedran dosbarth Derbyn amrywiol eu galluoedd. Mae Pori Drwy Stori yn adeiladu ar raglen boblogaidd Dechrau Da, sydd ar gyfer plant iau.

BookTrust Cymru sydd wedi cynllunio a chyflenwi’r rhaglen ac mae Llywodraeth Cymru’n ei hariannu. Mae rhaglen Pori Drwy Stori’n cael ei chyflenwi i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru a does dim angen cofrestru. 

Mae’r rhaglen yn darparu adnoddau ffisegol a digidol, i’w defnyddio gan athro’r dosbarth Derbyn yn yr ystafell ddosbarth ac i’w defnyddio gartref gan blant a’u rhieni a’u gofalwyr.

Nod y Rhaglen

Y nod yw codi safonau llythrennedd a rhifedd a hybu ymgysylltiad rhieni. Cefnogi Dysgu Sylfaen yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad canlynol: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd ac Iechyd a Lles.

Darllen, ysgrifennu, llafaredd

Rhigwm a stori

Manteision ehangach Pori Drwy Stori

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Nac oes – ariannwyd Pori Drwy Stori gan Lywodraeth Cymru. Mae pob ysgol a gynhelir yng Nghymru’n gymwys a byddant yn derbyn y rhaglen yn awtomatig. Does dim angen cofrestru.

Bydd eich ysgol/​lleoliad yn derbyn dau ddosbarthiad bob blwyddyn academaidd.
- Ym mis Medi byddwch yn derbyn adnoddau Tymor yr Hydref.
- Ym mis Ionawr byddwch yn derbyn adnoddau tymor y Gwanwyn a’r Haf.

Bwriedir pecynnau Pori Drwy Stori ar gyfer holl blant oedran Derbyn, i’w defnyddio yn y dosbarth yn ogystal â mynd â nhw adref i’w rhannu gyda theulu a ffrindiau.

Mae gennym ddigon o adnoddau ar gyfer plant oedran Derbyn (4 i 5 mlwydd oed) ond ni allwn ddarparu pecynnau ar gyfer unrhyw grwpiau oedran na phwrpasau eraill. Mae hyn yn golygu na allwn ddarparu pecynnau ar gyfer plant Meithrin na Blwyddyn 1, hyd yn oed os yw’r dosbarthiadau hyn wedi’u cymysgu â’r Derbyn, neu mae perygl y byddwn ni’n brin o becynnau.

Dylai ysgolion dderbyn digon o adnoddau ar gyfer yr holl blant y disgwylir iddynt ddechrau’r Derbyn yn ystod y flwyddyn ysgol hon. Gofynnwn i athrawon gadw unrhyw adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen arnynt ar gyfer unrhyw blant a fydd yn dechrau’n ddiweddarach yn y flwyddyn ysgol, a’u rhoi i blant newydd yn y Derbyn yn unig.

Os oes angen unrhyw wybodaeth neu gefnogaeth bellach arnoch ynghylch y rhaglen, anfonwch eich ymholiad at [email protected] os gwelwch yn dda, ac fe wnawn ni ymateb ar y cyfle cyntaf.

Pori Drwy Stori i deuluoedd

Gobeithio y byddwch chi a’ch teulu’n mwynhau cymryd rhan yn Pori Drwy Stori ac y byddwch chi’n cael llawer o hwyl gyda’ch gilydd yn rhannu cariad at lyfrau, straeon a rhigymau.

Defnyddio eich llyfrgell

Bydd eich llyfrgell leol yn gallu rhoi llawer o syniadau a chyngor i chi am lyfrau ardderchog i gefnogi addysg eich plentyn. Mae llyfrgelloedd yn agored i bawb, ac mae’n rhad ac am ddim i ymuno, a gellir benthyca llyfrau am ddim hefyd, ac nid yw llyfrgelloedd yn codi dirwy ar lyfrau plant mwyach.

Mentrau Llywodraeth Cymru

Mae grŵp Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref Llywodraeth Cymru’n darparu gwybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi eich plentyn yn y cartref a helpu eu perfformiad yn yr ysgol. Dilynwch y grŵp ar Facebook