Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar
Cynlluniwyd ein rhaglenni Dechrau Da i Blant Bach a Cyn-ysgol/Meithrin er mwyn cefnogi teuluoedd i ddarllen a rhannu straeon gyda’i gilydd.
Beth yw Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar?
Mae Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Oed Cyn Ysgol / Meithrin yn becynnau llyfrau a gynlluniwyd i helpu teuluoedd i gael hwyl wrth ddarllen a rhannu straeon gyda’u plant. Cynlluniwyd pecynnau Dechrau Da i Blant Bach ar gyfer plant 1–2 oed a chynlluniwyd pecynnau Dechrau Da Oed Cyn Ysgol / Meithrin ar gyfer plant 3–4 oed.
Cyflwynir Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar i deuluoedd drwy gyfrwng llawer o bartneriaid gwahanol fel timau ymwelwyr iechyd, hybiau teuluoedd a meithrinfeydd.
Mae pob pecyn yn cynnwys dau lyfr, gweithgareddau a gemau i ddod â’r llyfrau’n fyw, a denu diddordeb plant bach mewn darllen. Gallwch ddod o hyd i ragor o syniadau ynghylch sut i ddefnyddio eich pecyn isod, yn ogystal â fersiynau i’w lawrlwytho a’u hargraffu o’r adnoddau yn y pecyn.
Dechrau Da i Blant Bach: beth sydd yn y pecynnau

Llyfrau, gweithgareddau a chynghorion yn y pecyn Dechrau Da i Blant Bach
Syniadau ar gyfer defnyddio’r pecynnau
Mae pob pecyn yn cynnwys y llyfrau Zeki Goes to the Park ac All Aboard: Train.
- Pyped bys: Defnyddiwch hwn i ddweud y stori! Ceisiwch esgus fod y pyped yn un o’r cymeriadau, neu gallwch ei ddefnyddio i ddenu eich plentyn i siarad.
- Zeki Goes to the Park: Ewch â’r llyfr gyda chi pan fyddwch chi allan o’r tŷ. Allwch chi weld unrhyw bethau mae Zeki a Mummy yn ei weld wrth fynd am dro i’r parc?
- All Aboard: Train. Ceisiwch weld a all eich plentyn ddefnyddio’r llabedi gwthio a thynnu wrth i chi gyd-ddarllen.
- Os ydych chi’n ffansïo rhigwm, rhowch gynnig ar y syniadau ar gefn eich pecyn.
Dechrau Da Oed Cyn Ysgol: beth sydd yn y pecynnau

Llyfrau, gweithgareddau a chynghorion yn y pecyn Dechrau Da Oed Cyn Ysgol
Syniadau ar gyfer defnyddio’r pecyn
Mae pob pecyn yn cynnwys y llyfrau Supertato: Bubbly Troubly a Colours with a Ladybird.
Mae Dechrau Da Meithrin yng Nghymru’n cynnwys y llyfrau dwyieithog Y Deinosor Bach Yma a Dwmbwr Dambar
- Dwmbwr Dambar / Rumble Tumble: Allwch chi esgus bod yn anifail? Rhowch gynnig ar wneud y synau a’r symudiadau anifeilaidd allai fynd gyda phob creadur.
- Y Deinosor Bach Yma / This Little Dinosaur: Chwaraewch dacw’r deinosor! Mae llawer o ddeinosoriaid gwahanol sy’n gwneud llawer o bethau gwahanol.
Dechrau Da Meithrin: Beth sydd yn y pecynnau

Llyfrau, gweithgareddau a chynghorion yn y pecyn Dechrau Da Meithrin a gynigir yn Gymraeg a Saesneg
Mae Dechrau Da Meithrin yng Nghymru’n cynnwys y llyfrau dwyieithog Y Deinosor Bach Yma a Dwmbwr Dambar
- Dwmbwr Dambar/Rumble Tumble: Allwch chi esgus bod yn anifail? Rhowch gynnig ar wneud y synau a’r symudiadau anifeilaidd allai fynd gyda phob creadur.
- Y Deinosor Bach Yma / This Little Dinosaur: Chwaraewch dacw’r deinosor! Mae llawer o ddeinosoriaid gwahanol sy’n gwneud llawer o bethau gwahanol.
Mwy o adnoddau i’w lawrlwytho
-
You’ll find all your Storyteller, Toddler and Pre-Schooler resources to download here.
Cyflwyno Dechrau da Blynyddoedd Cynnar i bartneriaid
-
Croeso i’r hafan benodol ar gyfer Dechrau Da i Blant Bach a Dechrau Da Oed Cyn Ysgol/Meithrin, rhaglen ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gynlluniwyd er mwyn cael teuluoedd i ddechrau darllen.
Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr
-
Chwilio am rywbeth hwyl i’w wneud fel teulu? Gallwch fwynhau amser stori gyda’n llyfrau a fideos rhad ac am ddim ar lein, chwarae gemau, ennill gwobrau, neu hyd yn oed ddysgu sut i dynnu llun rhai o’ch hoff gymeriadau.