Os yw pobl yn meddwl eich bod chi’n newyddion drwg, beth sy’n rhaid i chi ei wneud i’w profi’n anghywir? Ac os ydyn nhw’n meddwl eich bod chi’n newyddion drwg beth bynnag yr ydych chi’n ei wneud, beth yw’r pwynt ceisio bod yn well?
Mae’r bachgen 14 oed Fred yn byw bywyd dwbl. Yn yr ysgol mae’n neb, yn ysbryd. Ond ar-lein, o’i gadair chwarae gemau, mae Fred yn troi’n Existor – ffrydiwr â llu o gefnogwyr brwd. Mae’n rhaid i Fred gydbwyso ei ddau bersona tra’n ymdrin â bwlis a sefyllfa gartref anodd.
Dilynwch eich dychymyg gan hedfan trwy gyfundrefn yr haul lle mae gan bob lleuad, planed a seren eu draig rithffurf eu hunain i’w cynrychioli a’u hamddiffyn. Antur ffuglen wyddonol ingol a fydd yn eich syfrdanu.
Mae Kyle yn magu perthynas â’i daid ecsentrig wedi’i seilio ar angerdd cyffredin at ddiogelu bywyd gwyllt mewn nant leol. Mae’r llyfr grymus hwn yn cynnwys themâu o salwch a bwlio ond yn cynnal naws optimistaidd, doniol.
Cafodd Ayrton ei ddwyn pan roedd yn fabi – a nain ddirgel Stanley oedd yn gyfrifol! Ond a allan nhw ddod o hyd iddi? Stori afaelgar o gyfrinachau teuluol a chyfeillgarwch.
Mae’r ferch 13 oed Gwen a’i brodyr a chwiorydd yn symud i dŷ brawychus ar ynys anghysbell. Pan fydd gwarchodwr plant newydd yn cyrraedd, mae digwyddiadau arswydus yn dilyn, ac mae’n rhaid i’r plant wynebu eu hofnau i’w threchu.