English Cymraeg

Raz Beri

gan Matt Stephens

Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 12+

Cyhoeddwr Firefly, 2024

  • Disability

Am y llyfr hwn

Mae Billy yn llawn cyffro pan fo’i gyd-ddisgybl newydd Mia yn datgelu mai ei hewythr yw ei arwr pêl-droed, Danny Cash. Ond hefyd, mae Danny wedi cytuno i ymweld â’u hysgol. 

Ond ar y dydd, mae bwlis y dosbarth yn ymosod ar Billy, gan bron â’i atal rhag cyfarfod â’i arwr. Yna, ar ben popeth, mae Billy yn siomedig i ddarganfod bod ei arwr ymhell o fod yn hoffus mewn gwirionedd. Mae Billy (sydd â pharlys yr ymennydd) a Mia ill dau yn ddefnyddwyr cadair olwyn. 

Mae’r llyfr doniol ond didostur hwn yn tynnu sylw at rywfaint o’r rhagfarn a’r anghydraddoldeb sy’n dal i fodoli ymhlith unigolion, ysgolion a chymdeithas. Mae’r termau sarhaus sy’n gysylltiedig ag anabledd yn arbennig o ffiaidd, sarhadau ofnadwy y gobeithir yn fawr eu bod nhw’n diflannu (neu’n cael eu hail-hawlio, fel y mae Billy yn ei wneud yma). 

Bron mor anghyfforddus â’r bwlio corfforol a llafar y mae’r gwahaniaethu uniongyrchol yr ydym ni’n ei weld - a phobl sy’n mynnu ceisio ‘helpu’ Billy neu’n gwneud ffỳs mawr ohono fel pe bai’n anifail anwes del. Fodd bynnag, mae’r anghysur yn cael ei gydbwyso’n glyfar gan sylwebaeth hynod ddoeth a ffraeth Billy ar y digwyddiadau. 

A bydd y darllenydd yn ymhyfrydu mewn gweld buddugoliaeth Billy dros y bwlis a’i gyfeillgarwch sy’n blodeuo gyda’r hyfryd o ddi-flewyn-ar-dafod Mia.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn