English Cymraeg

What Happens Online

gan Nathanael Lessore

Oedran diddordeb: 9 i 13
Oedran darllen: 10+

Cyhoeddwr Hot Key Books, 2025

  • Coming-of-age
  • Funny

Am y llyfr hwn

Mae’r bachgen 14 oed Fred yn byw bywyd dwbl. Yn yr ysgol mae’n neb, yn ysbryd. 

Mae’n cael ei fwlio gan grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 ac mae ei hunan-barch ar ei isaf. Ond ar-lein, o loches ei gadair chwarae gemau, mae Fred yn troi’n Existor - ffrydiwr dienw ffraeth â llu o gefnogwyr brwd. Wrth i’w fywyd cartref ddechrau ymddatod ac i bwysau gynyddu yn yr ysgol, mae Fred yn penderfynu defnyddio poblogrwydd Existor i wneud ei fywyd yn haws ei oddef. 

Mae’n creu proffil Existor ar gyfryngau cymdeithasol ac yn lledaenu sibrydion o gwmpas yr ysgol, yn rhoi hwb i’w hun ac yn dinistrio ei elynion gyda negeseuon ffug. Er ei fod yn mwynhau ei boblogrwydd newydd i gychwyn, yn fuan mae Fred yn cael ei ddal mewn gwe o gelwydd ac mae’n rhaid iddo benderfynu a yw statws ac enwogrwydd yn werth mwy na’i onestrwydd. 

Mae’r awdur arobryn Nathanael Lessore yn llwyddo eto gyda’r llyfr gwych hwn, sy’n dal ing y glasoed yn oes cyfryngau cymdeithasol. Wedi’i ysgrifennu yn y person cyntaf, mae’r darllenwyr yn cael cipolwg ar y chwyrligwgan o feddyliau sy’n gwibio trwy feddwl Fred: ei arsylwadau gwirion o ddoniol, ei ofnau gwirioneddol iawn, a’i fuddugoliaethau prin - y cwbl wedi’i ysgrifennu mewn iaith pobl yn eu harddegau manwl gywir a chyfeiriadau diwylliannol a fydd yn apelio’n fawr. 

Mae bywyd Fred ymhell o fod yn berffaith, ac ymhlith yr hiwmor mae’r llyfr hwn yn archwilio themâu difrifol gan gynnwys iselder, bwlio, a pherthnasoedd teuluol heriol. Mae Lessore yn llywio’r materion hyn yn fedrus, heb gilio oddi wrthyn nhw, ond yn eu hwynebu mewn ffordd realistig a phenderfynol, ond sy’n codi’r galon yn y pen draw.

Mwy o lyfrau fel hyn

Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn