Cold Turkey
gan Simon James Green, darluniau gan Tosin Akinkunmi
Oedran diddordeb: 10 i 13
Oedran darllen: 7+
Cyhoeddwr Barrington Stoke, 2025
Am y llyfr hwn
Mae Kit yn gandryll gyda’i ffrind gorau Hamza. Wel, ei gyn-ffrind gorau. Cymerodd Hamza rywfaint o’r arian yr oedden nhw wedi ei ennill gyda’i gilydd i’w wario ar ferch! A nawr mae cymydog oedrannus Kit eisiau iddyn nhw wneud mwy o waith gyda’i gilydd. Mae’n waith rhyfedd - mynd â thwrci wedi’i rostio ar draws Llundain i dŷ ei ffrind - ond mae Kit yn cytuno’n anfodlon.
Ac felly mae taith ryfedd sy’n cynnwys yr heddlu, y criw clirio bomiau a gang stryd drygionus yn cychwyn. A wnaiff y bechgyn gyrraedd cyn i’r twrci oeri? Ac a wnân nhw fyth siarad â’i gilydd eto? Mae’r stori hawdd iawn ei darllen hon yn ddoniol a chyffrous, â diweddglo annisgwyl. Mae’r bechgyn yn cael eu hunain mewn gwahanol sefyllfaoedd hurt wrth iddi droi’n ras yn erbyn amser.
Nid yw thema cyfeillgarwch gwrywaidd yn cael ei archwilio’n aml mewn ffuglen, ac ar ôl darllen hwn, efallai y gwnaiff y darllenydd ystyried derbyn eu cyfeillion am bwy ydyn nhw, hyd yn oed os byddan nhw’n gwneud pethau dwl o dro i dro. (Er, os mai chi yw’r un a fradychodd eich ffrind, fe ddylech chi ymddiheuro!) Bydd darllenwyr dyslecsig yn gwerthfawrogi’r papur melyn, y nifer fach o dudalennau a’r gofod o gwmpas y testun, gan fod y rain yn ei wneud yn ddeniadol i’w ddarllen. Hefyd, mae’r lluniau du a gwyn yn ychwanegu cymeriad a drama.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Beck
9 i 14 years
-
Grimstink
9 i 14 years
-
Weird Philosophy
9 i 14 years
-
Cruise Ship Kid: Thief at Sea
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 11+ oed
Y llyfrau gorau o 2025-26 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 11+ oed.