The First Year
gan Matt Goodfellow, darluniau gan Joe Todd-Stanton
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 10+
Cyhoeddwr Otter-Barry, 2025
Am y llyfr hwn
Dyma’r dilyniant i The Final Year, a adroddodd hanes blwyddyn olaf Nate yn yr ysgol gynradd a’r holl bethau yr aeth drwyddyn nhw, gan gynnwys ei frawd iau Dylan bron yn marw.
Mae The First Year yn parhau’r stori, gan fod Nate bellach ym Mlwyddyn 7 ac yn dechrau’r ysgol uwchradd. Rydym ni’n neidio’n syth i mewn i stori Nate o le wnaethom ni ei gadael, felly mae hwn yn ddilyniant go iawn. Byddai angen i ddarllenwyr fod wedi darllen The Final Year yn gyntaf i wir ddeall y stori.
Mae The First Year wedi’i ysgrifennu ar ffurf canu rhydd ond mae ganddo wahanol rythm i'r llyfr diwethaf, yn union fel y mae dechrau’r ysgol uwchradd yn teimlo mor wahanol i gysur cymharol yr ysgol gynradd. Mewn rhai ffyrdd, mae pethau yn union yr un fath: mae Nate yn byw gyda Mam, Jax a Dylan. Mae Auntie San yn dal i ddod draw i fynd i’r bingo gyda Mam ac i feddwi ar seidr.
Ond, yn syfrdanol, mae tad dirgel Nate yn dychwelyd i’w fywyd - am ychydig beth bynnag. Felly mae bywyd yn llawer mwy cymhleth ac mae cymaint o deimladau i’w harchwilio. A dyna mae The First Year yn ei wneud mor hyfryd - mae’n archwilio’r holl stwff cymhleth, anniben o dyfu i fyny ac yn ei roi i gyd i lawr fel barddoniaeth i’n helpu i wneud synnwyr ohono.
Mae hwn yn llyfr gwych, cymhleth o ran thema ond syml a chyflym i’w ddarllen. Mae’n llyfr a fydd yn gwneud i blant dosbarth gweithiol deimlo’n gartrefol a heb eu dieithrio mewn unrhyw ffordd. Mae’n llyfr sy’n dweud, "Croeso, dewch i mewn."
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Final Year
9 i 14 years
-
The Blockbusters!
9 i 14 years
-
Solving Crimes is NOT My Superpower
9 i 14 years
-
Blue Jelly and Strawberries
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 11+ oed
Y llyfrau gorau o 2025-26 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 11+ oed.