Olly Brown, God of Hamsters
gan Bethany Walker, darluniau gan Jack Noel
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Scholastic, 2023
Am y llyfr hwn
Mae Olly Brown wedi gwirioni ar fochdewion ond mae wedi’i syfrdanu pan mae haid ohonyn nhw’n ymddangos yn ei stafell wely ar ôl i’w llong ofod syrthio i’r ddaear yn y pwll dŵr yn ngardd ei gymydog. Mae’r cnofilod bach blewog, y mae’r prif fochdew Tibbles yn eu harwain, yn hynod ddeallus, yn gallu dilyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig ac, yn rhyfedd iawn, yn ymddangos fel petaen nhw’n addoli Olly fel duw. Pan mae’n darganfod bod y bochdewion – a’r Ddaear – mewn cryn berygl, mae’n rhaid i Olly oresgyn ei orbryder dwys a dod o hyd i’w gryfder mewnol i achub y dydd.
Yn llawn hiwmor, mae’r llyfr antur ffug wyddonol, tu hwnt o ddifyr hwn yn dangos pwysigrwydd cyfeillgarwch a bod â’r dewrder i wynebu’ch ofnau.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen
gan Siôn Tomos Owen
7 i 11 years
-
Arwr Arfro: Dewis Dy Dynged
gan Llinos Dafydd, darluniau gan Amelie Amelie Ahern-Williams
7 i 11 years
-
The Candleman
gan Catherine Fisher
11 i 14 years
-
Gwen ac Arianrhod
gan Lleucu Gwenllian
9 i 14 years