English Cymraeg

21% Monster

gan P. J. Canning

Oedran diddordeb: 12 i 14
Oedran darllen: 10+

Cyhoeddwr Usborne, 2022

  • Adventure
  • Chapter books
  • Fantasy
  • Science fiction

Am y llyfr hwn

Pan mae Darren, sy’n 12 oed, yn dinistrio’i ysgol gyda’i ddwy law, mae’n cael ei arestio a’i anfon i garchar tra diogel ar gyfer troseddwyr ifanc. Mae’n cael ei ‘achub’ gan Marek, sy’n esbonio bod y ddau ohonyn nhw wedi cael eu creu trwy Brosiect Helix, sef cyfres o arbrofion roedd y sefydliad cudd XSP wedi’u gwneud.

Mae’n rhaid i Darren a Marek gyfuno’u sgiliau goruwchddynol a gweithio fel tîm os ydyn nhw am aros un cam o flaen asiantiaid didrugaredd XSP, na fyddan nhw’n rhoi’r gorau iddi nes bo’r bechgyn yn cael eu dileu.

Gyda chymeriadau hynod ac ychydig o dechnoleg ddyfodolaidd arswydus, mae’r stori afaelgar hon yn sicr o apelio at edmygwyr Alex Rider a Percy Jackson.

Rhannu’r dudalen hon Twitter Facebook LinkedIn