People Like Stars
gan Patrice Lawrence
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 8
Cyhoeddwr Scholastic
Am y llyfr hwn
Mae tri o ddieithriaid 13 oed wedi’u cysylltu gan un digwyddiad flynyddoedd yn ôl.
Cafodd Ayrton ei ddwyn pan roedd yn fabi. Dim ond am gyfnod byr iawn, ond hyd yn oed nawr ni wnaiff ei fam ei adael allan o’i golwg, ac nid oes ganddo unrhyw ffrindiau nac unrhyw fywyd. Mae gan Stanley nain waharddedig nad yw’n cael sôn amdani. Ac mae Senna a’i mam yn gwneud eu gorau glas i beidio â thramgwyddo eu landlordes gyfrinachol sydd wrth ei bodd â rheolau.
Pan fydd Ayrton yn clywed Stanley yn dweud bod ei nain wedi dwyn babi unwaith, mae’r bechgyn yn cyfuno i ddod o hyd iddi, er y bydd yn peri gofid i famau’r ddau. Ond mae mwy o gyfrinachau yn gysylltiedig â’r nain ddirgel hon nag yr oedden nhw’n ei ddisgwyl...
Mae’r dirgelwch gafaelgar hwn yn cael ei adrodd o safbwynt pob un o’r tri o bobl ifanc. Mae Patrice Lawrence yn wych am bortreadu teuluoedd go iawn, ac yma ceir rhieni sengl, rhieni nad ydynt wedi priodi, rhieni sy’n cael trafferth yn ymdopi’n ariannol ac, wth gwrs, cyfrinachau teuluol enfawr.
Bydd y darllenydd yn cael ei wylltio gan ysgol Senna yn ei chosbi am fethu â gallu fforddio blaser newydd, ac yn cydymdeimlo ag Ayrton, sy’n teimlo ei fod yn cael ei fygu gan ei fam or-amddiffynnol. Mae hwn yn ddelfrydol i ddarllenwyr sy’n mwynhau ffuglen gyfoes sy’n teimlo’n wir.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
My Name is Sunshine Simpson
9 i 14 years
-
Clem Fatale Has Been Betrayed
9 i 14 years
-
Solving Crimes is NOT My Superpower
9 i 14 years
-
The Misadventures of Mina Mahmood: School Trip!
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 11+ oed
Y llyfrau gorau o 2025-26 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 11+ oed.