My Name is Sunshine Simpson
gan G. M. Linton
Oedran diddordeb: 9 i 11
Oedran darllen: 8+
Cyhoeddwr Usborne, 2023
Am y llyfr hwn
Merch gyffredin deng mlwydd oed ydy Sunshine Simpson. A dyna’r broblem. Wnaeth hi ddim hyd yn oed ennill y sialens sgipio eleni. Mae ei thaid annwyl yn dweud bod bywyd yn antur ac na ddylai unrhyw un ddwyn ei llawenydd. Ond mae pawb yn caru Taid – mae mor siaradus a doniol. Beth sy’n arbennig am Sunshine?
Stori annwyl am deulu, cymuned a hunan-gred sydd, yn y pen draw, yn codi calon. Mae’r stori am Sunshine yn ceisio gweithio allan pwy ydy hi, tra’i bod yn delio â’r ysgol a’r teulu, yn cael ei hadrodd gyda hiwmor a chalon, ac yn un y gallwn ni uniaethu â hi. Mae hwn yn gychwyn hyderus i’r awdur, gan ymdrin â galar, deinameg cyfeillgarwch ac unigolrwydd mewn modd darllenadwy a chyfeillgar.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
Gwen ac Arianrhod
9 i 14 years
-
Unfairies
5 i 14 years
-
Gloam
9 i 14 years
-
Cold Turkey
9 i 14 years