Gloam
gan Jack Mackay, darluniau gan Ben Joel Price
Oedran diddordeb: 9 i 14
Oedran darllen: 9+
Cyhoeddwr Rock the Boat, 2025
Am y llyfr hwn
Ar ôl colli eu mam, mae’r ferch 13 oed Gwen a’i tri brawd a chwaer iau yn symud i ynys fechan anghysbell Gloam gyda’u llystad caredig ond anffodus. Mae’r teulu yn symud i dŷ gwag eu diweddar nain; tŷ a oedd yn arfer atseinio ag atgofion hapus o’r haf, ond sydd bellach yn taflu cysgod trwm dros eu bywydau.
Mae tensiwn yn cynyddu pan fydd Esme, y gwarchodwr plant newydd siwgraidd, yn cyrraedd ac mae pethau rhyfedd ac annifyr yn dechrau digwydd yn y tŷ. Mae Gwen yn amau mai Esme sy’n gyfrifol, yn mwynhau eu harswyd. Wrth i’r erchylltra ddwysau, mae’n rhaid i bob un o’r plant wynebu eu hofnau mwyaf i dorri’n rhydd o’i chynlluniau anfad.
Mae’r stori arswyd gothig hon gan yr awdur newydd Jack MacKay yn iasol ac yn siŵr o’ch rhoi ar bigau’r drain. Mae darllenwyr yn cael eu cludo i ynys anghysbell Gloam a lleoliad erchyll yr hen dŷ trwy ddarnau disgrifiadol rhagorol a stori afaelgar.
Ceir ysgafnder ymhlith yr arswyd hefyd, wrth i Gwen ddod i delerau yn y pen draw â’r teimladau y mae wedi eu gwthio i lawr ers marwolaeth ei mam a sylweddoli grym cefnogaeth deuluol. Llyfr gwych i’r rhai sy’n hoff o arswyd gothig a llyfr ardderchog i’w ddarllen gyda’r dosbarth i ddangos disgrifiadau atmosfferig yng Nghyfnod Allweddol 2 ac uwch.
Mwy o lyfrau fel hyn
-
The Haunting of Fortune Farm
9 i 14 years
-
Serial Chillers: The Witch in the Woods
9 i 14 years
-
Mallory Vayle and the Curse of Maggoty Skull
9 i 14 years
-
Shiver Point
9 i 14 years
Rhestrau o lyfrau darllen a argymhellir
-
Canllaw Llyfrau Gwych 2025-26: Ar gyfer plant 11+ oed
Y llyfrau gorau o 2025-26 yn Gymraeg, Saesneg ac yn ddwy-ieithog ar gyfer plant 11+ oed.