Partneriaid BookTrust yn dod â’r HUD

Published on: 6 Tachwedd 2023

Byddwnni’ncyrraedddrosfiliwn o blantyn y blynyddoeddcynnargydallyfrau, adnoddau a chefnogaeth bob blwyddyn. 

Mae ystod enfawr o weithwyr proffesiynol yn defnyddio ein hadnoddau a’n cymorth i annog teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd gan gynnwys ymwelwyr iechyd, therapyddion iaith a lleferydd, gweithwyr addysg blynyddoedd cynnar, athrawon, llyfrgellwyr, timau cymorth cynnar a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant.

Pan fydd partneriaid yn rhoi cyngor ac esboniad cyfeillgar ac yn dangos i deuluoedd sut i ddarllen gyda'i gilydd mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gwyddom fod:

  • Plant yn fwy tebygol o gael rhywun yn darllen iddyn nhw’n gynt ac yn amlach pan fydd eu rhieni wedi cael cyngor ar ddarllen yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf.
  • Roedd teuluoedd a gafodd gynghorion ar ddefnyddio ein Pecynnau Dechrau Da Babi ddwywaith yn fwy tebygol o gytuno’n gryf bod y pecynnau wedi newid yn gadarnhaol sut roedden nhw’n rhannu llyfrau, straeon a rhigymau gyda’u babi.
  • Mae teuluoedd sy’n cofio partner yn esbonio eu pecynnau BookTrust iddyn nhw, neu sy’n cael arddangosiad yn fwy tebygol o ddarllen llyfrau a rhannu straeon yn fwy gyda’u plant (90% vs 75%)
“Roedd hi’n wych cael gweld sut y defnyddiwyd y llyfr, a bod mewn amgylchedd dysgu gyda rhieni eraill.”
Teulu sy’n derbyn Pecyn Dechrau Da Plant Lleiaf / Blwyddyn 1-2 oed, Lloegr.

Lawrlwytho fel poster argraffadwy