Enillwch lyfrgell fach i’ch lleoliad!

Dyma sut y gallech CHI ennill set o lyfrau a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer eich lleoliad, wedi'u dethol â llaw gan ein tîm Llyfrau arbenigol – yn ogystal â nwyddau ychwanegol i'w mwynhau.

Rydyn ni wrth ein bodd o gael rhannu'r wobr anhygoel hon gyda'n partneriaid - mae ein tîm Llyfrau arbenigol wrthi’n dewis pum llyfrgell fach ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar, a bob diwrnod yr wythnos hon bydd cyfle newydd i ennill! Rhowch gynnig arni am gyfle i ennill pecyn o lyfrau wedi'i ddewis yn arbennig ar gyfer eich lleoliad, gan gynnwys sesiwn gyda'r tîm Llyfrau i greu eich llyfrgell fach - ynghyd â phosteri am fanteision darllen.

Byddwn yn cyhoeddi un enillydd newydd bob diwrnod o'r wythnos, felly cadwch olwg – a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru erbyn 3pm i gael eich cynnwys yn y gystadleuaeth y diwrnod hwnnw!

Enillwch lyfrgell fach i’ch lleoliad!

Ardal *
Ydych chi'n cytuno i ni eich tagio ar y cyfryngau cymdeithasol os ydych chi'n ennill? *
Cadarnhewch eich bod yn cytuno i rannu eich manylion gyda ni *

Cael y newyddion diweddaraf

Byddem wrth ein bodd yn rhannu mwy gyda chi am ein gwaith yn ogystal â syniadau hwyliog i'r teulu; cystadlaethau, digwyddiadau a gweithgareddau codi arian yn y dyfodol; a ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan. Dim ond yn y ffyrdd yr ydych chi’n dymuno y byddwn yn cysylltu â chi, ac rydym yn addo cadw eich data yn ddiogel. Gweler ein polisi preifatrwydd am fanylion pellach.

Ydych chi'n hapus i ni gysylltu â chi trwy e-bost? *

Telerau ac amodau

  1. Rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 oed o leiaf i gystadlu.
  2. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, a rhaid ichi fod yn gweithio mewn partneriaeth â BookTrust.
  3. Nid yw'r gystadleuaeth ar agor i weithwyr BookTrust (nac aelodau o'u teuluoedd agos).
  4. Un cais i bob person yn unig.
  5. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 3pm Ddydd Llun 6 Tachwedd
  6. Bydd un enillydd yn cael ei ddewis ar hap bob dydd (o bob cais cymwys).
  7. Os na fydd enillydd a ddewiswyd yn ymateb i ohebiaeth o fewn wythnos, bydd enillydd newydd yn cael ei ddewis.
  8. Bydd ein penderfyniad yn derfynol, ac ni fyddwn yn cychwyn ar ohebiaeth.
  9. Ni fydd yn bosibl trosglwyddo’r wobr i berson arall.
  10. Nid oes modd cyfnewid unrhyw ran o'r wobr am arian parod nac unrhyw wobr arall.
  11. Cynhelir y wobr gan BookTrust No. 1 Aire Street, Leeds, LS1 4PR.
  12. Bydd gwobrau yn cael eu hanfon at enillwyr drwy'r post. Fodd bynnag, ni ellir dal BookTrust yn gyfrifol am unrhyw wobrau sy’n cael eu colli, eu difrodi neu eu dwyn ar ôl iddynt gael eu hanfon.
  13. Drwy gymryd rhan, rydych yn cytuno â'r telerau ac amodau yn ein datganiad preifatrwydd.
  14. Mae BookTrust yn cadw'r hawl i ddiwygio dyddiad cau’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg.