Defnyddio'ch pecynnau: awgrymiadau a syniadau
Fe fyddwch chi'n ymwybodol nad pawb sydd wedi'u magu â llyfrau'n rhan o'u bywyd teuluol.
Ond trwy ddangos i deuluoedd cymaint o hwyl sydd i'w chael o rannu llyfrau ac mor hawdd y mae'n gallu bod, a'u helpu nhw i weld sut y mae'n helpu plant i ddatblygu, gallwch chi chwarae rhan hollbwysig yn eu siwrnai ddarllen. Fe allech chi roi cynnig ar:
- Roi gwybod i deuluoedd nad oes yna 'ffordd anghywir' o fwynhau straeon a llyfrau – dydy darllen ddim yn gorfod bod yn berffaith, mae a wnelo'r cyfan â mwynhau llyfrau a straeon gyda'ch gilydd mewn unrhyw ffordd sy'n gweithio.
- Dangos i deuluoedd sut y mae rhannu straeon yn gallu rhoi cychwyn i sgwrs gyda'u plant – gall llyfrau a straeon fod yn fan cychwyn ar gyfer siarad am deimladau'r plant, y tywydd - neu unrhyw beth!
- Dwyn sylw'r rhieni at adegau pan fydd eu plant bach yn mwynhau stori – edrych ar y lluniau, chwerthin ar leisiau gwirion – mae'r holl bethau hyn yn diddanu'r plant ac yn cadarnhau i'r rhieni bod eu plant yn elwa mewn rhyw ffordd.