Croeso i’n Harweiniad i Adnoddau ar gyfer Partneriaid  

Mewn cydweithrediad â phartneriaid fel chi, rydym yn gweithio i helpu teuluoedd i brofi holl fuddiannau gwerthfawr darllen. Mae’r arweiniad hwn wedi’i ddatblygu i’ch helpu i rannu’r pecynnau Dechrau Da 1-2 a Dechrau Da 3-4 ac mae’n cynnwys adnoddau sy’n: 

  • Disgrifio nodau’r rhaglen  

  • Tynnu sylw at fuddiannau darllen i deuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar 

  • Cynnig syniadau ar gyfer rhannu’r adnoddau yn eich lleoliad, sydd wedi’hysbrydoli gan bartneriaid eraill a’r hyn y gwyddom sy’n gweithio i deuluoedd  

  • Eich helpu i rannu’r hyn sy’n digwydd yn eich lleoliad â theuluoedd ar gyfryngau cymdeithasol 

  • Eich helpu i gyflwyno sesiwn hyfforddi/friffio yn lleol  

Rydym yn sylweddoli bod amser yn brin, ac na fyddwch yn gallu darllen yr holl adnoddau yn yr arweiniad, felly rydym wedi nodi’r elfennau allweddol canlynol: 

Os oes gennych 5 munud mi allwch: 

Os oes gennych fwy o amser, efallai yr hoffech ddysgu mwy am BookTrust Cymru a rhannu’r adnoddau drwy ddefnyddio ein cyflwyniad hyfforddiPam na wnewch chi ei rannu â chydweithwyr hefyd?

Arweiniad i gynnig Dechrau Da 1-2 Oed a 3-4 Oed

Mae’r esboniwr hwn yn cynnwys negeseuon pwysig ac awgrymiadau defnyddiol ar roi rhoddion ac mae’n cynnwys dolen at ein Hyb Adrodd Straeon at gyfer partneriaid.

Llythyr i rieni a gofalwyr

Gellir rhoi’r testun golygadwy hwn i rieni / gofalwyr law yn llaw â’r pecynnau neu gellir ei anfon dros e-bost / ap i rannu negeseuon allweddol am gynnwys y pecyn a manteision darllen. Am PDF o'r llythyr, gweler isod.

Pecyn offer cyfryngau cymdeithasol

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i rannu manylion y rhaglen ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys postiadau enghreifftiol a baneri.

Dec sleidiau

Mae’r set hwn o sleidiau’n rhoi trosolwg o’r cynnig a gellir ei ddefnyddio mewn sesiynau hyfforddi / briffio i gyflwyno partneriaid cyflenwi i waith BookTrust Cymru.

Fideos

Mae’r fideos hyn yn darparu cyflwyniad i BookTrust Cymru ar gyfer partneriaid gan rannu negeseuon allweddol ynghylch beth sydd yn y pecynnau a sut y gallwch

Ymchwil

Yma cewch rai o’n briffiadau ymchwil diweddaraf.

Lawrlwythwch y llythyr at rieni a gofalwyr fel PDF y gellir ei olygu.

"Mae ein staff yn rhannu llyfrau â phlant, gan ddangos sut i ddarllen storïau’n rhyngweithiol ac mewn ffordd sy’n addas i’w plentyn, gan roi hwb i’w hyder. Rydym yn rhoi pwyslais ar siarad, chwarae a chael hwyl â llyfrau – ac nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid eistedd yn dawel a llonydd bob tro, oni bai bod y plentyn eisiau gwneud hynny."
Canolfan Deulu Hertfordshire  

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oedyng Nghymru?

Ydych chi’n gweithio gyda phlant 0-5 oed yng Nghymru?

Cofrestrwch i dderbyn diweddaraiadau am ein gweithgareddau, adnoddau a hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr ac athrawon.

Cofrestru...