Dechrau Da i Blant Bach a i Blant Cyn Oed Ysgol

Helô! Dyma'ch hyb Dechrau Da i Blant Bach a i Blant Cyn Oed Ysgol.

Fe ddewch chi o hyd i'r holl bethau sydd eu hangen i gefnogi teuluoedd ar eu hantur ddarllen yn y fan yma. Dewch yn ôl yn rheolaidd i weld gweithgareddau ac adnoddau newydd.

Cael gwybod beth sydd yn eich pecyn Adrodd Straeon a chael syniadau ynglŷn â sut i'w ddefnyddio.

Cael mwy o adnoddau, dolenni i restrau llyfrau a gweithgareddau ychwanegol.

Llenwch arolwg 10-funud a'n helpu ni i gefnogi teuluoedd yn well.

Awgrymiadau Michael Rosen ar gyfer Adrodd Straeon

Mae’r awdur gwych Michael Rosen, creawdwr We're Going on a Bear Hunt (Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth), yn rhannu ei awgrymiadau a’i driciau i ddod â straeon yn fyw i blant, gan gynnwys:

  • Cadw sylw plant
  • Defnyddio’ch llais i ddod â chymeriadau’n fyw
  • Defnyddio pypedau i helpu i adrodd y stori

Gwyliwch y fideos

Fideos i'w rhannu gyda theuluoedd

Fideos difyr ar fanteision rhannu straeon, ynghyd ag awgrymiadau syml ac ymarferol ar gyfer gwneud llyfrau a straeon yn rhan o fywyd bob dydd.

Gwyliwch y fideos

Cwestiynau cyffredin

  • Pwy yw’r gynulleidfa darged ar gyfer yr adnoddau hyn?

    Ein cynulleidfa darged ar gyfer yr adnoddau hyn yw teuluoedd incwm isel â phlant 1-4 oed, a all fod angen mwy o help i wneud darllen ar y cyd yn rhan reolaidd o'u bywyd. Cynlluniwyd y cynnig gydag ymarferwyr a theuluoedd o'n grwpiau targed.

    Mae partneriaid wedi defnyddio sawl dull i ddod o hyd i'r llwybrau gorau o gyrraedd teuluoedd; yn gyffredinol gellid disgrifio'r rhain fel:

    • Daearyddol – ble mae partneriaid wedi adnabod lleoliadau neu lwybrau drwy weithio mewn ardaloedd o ddifreintedd uwch

    A / neu

    • Adnabod llwybrau neu sefydliadau sydd, wrth eu natur, yn cyrraedd teuluoedd yn ein grwpiau targed.

    Gwnaed llawer o waith i ddiffinio'r ffyrdd lluosog o wneud hyn yn fanylach – gydag ystod o ddulliau'n cael eu defnyddio gan bartneriaid sy'n cymryd rhan.

  • Beth yw nodau’r peilotau hyn?

    Nod peilotau Dechrau Da Plant Lleiaf a Cyn Ysgol yw:

    • Darparu mwy o offer a gwybodaeth i deuluoedd targed sydd ei angen arnynt i'w cefnogi a'u cyffroi ynghylch rhannu straeon gyda'i gilydd
    • Darparu offer a gwybodaeth i'n partneriaid i gefnogi'u gwaith gyda Cyfrannu at ddysgu pa gefnogaeth sydd ei angen ar deuluoedd targed ar gyfer rhannu straeon gyda'i gilydd yn y blynyddoedd cynnar – a ble, pryd a sut y gall BookTrust a phartneriaid ddarparu'r gefnogaeth hon orau
    • Dod o hyd i lwybrau llwyddiannus i gyrraedd at deuluoedd
    • Dysgu sut allwn ni gefnogi gwaith ein partneriaid gyda theuluoedd yn well.
  • Sut alla i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau?

    Pecyn Storïwr

    Mae'r pecyn storïwr yn becyn offer a ddatblygwyd i gefnogi ein partneriaid gyda rhannu straeon â theuluoedd. Gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau gyda theuluoedd fel rhan o sesiynau adrodd stori mewn grŵp, neu gyda theuluoedd unigol gartref.

    Gallwch rannu'r llyfrau, defnyddio props i helpu i ddod â nhw'n fyw, ac archwilio'r cardiau gweithgaredd i gael mwy o awgrymiadau ynghylch sut i ymestyn y stori.

    Helpwch deuluoedd weld sut allan nhw ailadrodd y profiad o adrodd stori gartref dwy ddangos beth rydych chi'n ei wneud, hybu'u hyder a phwysleisio nad oes yn rhaid iddo fod yn berffaith er mwyn i'w plentyn ei fwynhau!

    Plentyn Lleiaf

    Cynlluniwyd pecynnau Dechrau Da Plant Lleiaf ar gyfer plant 1-2 oed. Wrth roi'r pecyn yn anrheg, gallwch dynnu sylw at elfennau o'r neges a argreffir ar gefn amlen y pecyn, fel sut allan nhw gael at weithgareddau pellach ar ein Hwb Teulu, neu sut allan nhw ymuno â'r llyfrgell leol.

    Os oes gennych amser, gallwch hyd yn oed roi cynnig ar fodelu o flaen teuluoedd sut allech chi ddefnyddio'r llyfrau a'r adnoddau gyda phlentyn – dangos, er enghraifft, sut y gall rhieni / gofalwyr ddefnyddio'r pyped bys fel cymeriad ar gyfer adrodd y stori neu ganu rhigwm.

    Cyn Ysgol

    Cynlluniwyd pecynnau Dechrau Da Cyn Ysgol ar gyfer plant 3-4 oed. Wrth roi'r pecyn yn anrheg, gallwch dynnu sylw at elfennau o'r neges a argreffir ar gefn amlen y pecyn, fel sut allan nhw gael at weithgareddau pellach ar ein Hwb Teulu, neu sut allan nhw ymuno â'r llyfrgell leol.

    Os oes gennych amser, gallwch hyd yn oed roi cynnig ar fodelu o flaen teuluoedd sut allech chi ddefnyddio'r llyfrau a'r adnoddau gyda phlentyn – dangos, er enghraifft, sut y gellir defnyddio Mae Gan Bawb Ei Gorff Ei Hun i helpu sôn am wahaniaethau.

  • Pa adnoddau, ac eithrio’r pecynnau a roddir yn anrheg, sydd ar gael i deuluoedd?

    Law yn llaw â’r pecynnau papur, rydym hefyd wedi creu Hwb Teulu digidol ble gall teuluoedd ddarganfod mwy o weithgareddau, fideos cyd-ddarllen, awgrymiadau am lyfrau a chyngor am ddarllen gyda’u plentyn. Gall teuluoedd fynd i’r Hwb drwy God QR ar gefn eu pecyn neu drwy fynd i booktrust.org.uk/familyhub.  

  • Sut mae’r peilot hwn yn cysylltu â gwaith arall BookTrust?

    Yng Nghymru, dim ond un rhan o daith ddarllen blynyddoedd cynnar BookTrust yw Dechrau Da Plant Lleiaf a Plant Cyn Ysgol. Rhoddir anrheg y pecyn Dechrau Da Babi i deuluoedd gan yr Ymwelydd Iechyd pan fydd y plentyn yn 6 mis oed, a'r pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar rhwng 2 a 3 oed. Mae'r ddau becyn yn cynnwys 2 lyfr darluniau a chynghorion i deuluoedd ar sut i fwynhau rhannu straeon â'u plentyn. Mae rhaglen Pori Drwy Stori'n adeiladu ar Dechrau Da. Mae'r rhaglen ddwyieithog gyffrous ar gyfer plant oedran Meithrin a Derbyn yng Nghymru. Bydd plant sy'n cymryd rhan yn derbyn llyfrau, rhigymau, gweithgareddau a gemau a anelir at gefnogi'u llythrennedd, rhifedd, sgiliau siarad a gwrando yn y Cyfnod Sylfaen. Ariennir Pori Drwy Stori gan Lywodraeth Cymru a'i ddarparu gan BookTrust Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i booktrust.org.uk/poridrwystori

  • Sut fydd y peilot yn cael ei werthuso?

    Rydyn ni'n gwerthuso'r peilot ar sawl lefel – drwy gymysgedd o ddysgu meintiol ar raddfa eang a sgyrsiau ansoddol â theuluoedd a phartneriaid unigol.

    Fel rhan o'n dysgu ar raddfa eang, sy'n cael ei gynnal yn bennaf drwy gyfrwng arolygon i deuluoedd a phartneriaid, byddwn ni'n ceisio dysgu mwy am y bobl mae'r cynnig yn ei gyrraedd, a chasglu argraffiadau cychwynnol am y modd mae partneriaid a theuluoedd yn ymgysylltu â'n hadnoddau.

    Law yn llaw â hyn, rydyn ni hefyd yn cynllunio i weithio'n agos â rhai o'n partneriaid a theuluoedd i ddeall yn fanylach effaith y pecynnau a sut y gellir eu gwella ar gyfer eu cyflwyno yn y dyfodol.

  • Sut mae’r peilot yn eistedd o ran gwaith BookTrust i’r dyfodol?

    Mae'r peilot hwn yn gam cyntaf yng ngwaith BookTrust i ddysgu am yr hyn a wnawn yn y blynyddoedd cynnar i gefnogi ein teuluoedd targed yn well.

    Byddwn ni'n parhau i ddatblygu ein cynigion blynyddoedd cynnar wrth i ni gynyddu ein dealltwriaeth o'r ffordd orau y gall BookTrust ddarparu'r gefnogaeth hon – drwy werthuso'r peilot hwn a phrosiectau ymchwil pellach.

  • Os oes gen i ragor o ymholiadau neu gwestiynau, â phwy ddylwn i gysylltu?

    E-bostiwch [email protected] os gwelwch yn dda.