Croeso i’n Harweiniad i Adnoddau ar gyfer Partneriaid
Mewn cydweithrediad â phartneriaid fel chi, rydym yn gweithio i helpu teuluoedd i brofi holl fuddiannau gwerthfawr darllen. Mae’r arweiniad hwn wedi’i ddatblygu i’ch helpu i rannu’r pecynnau Dechrau Da 1-2 a Dechrau Da 3-4 ac mae’n cynnwys adnoddau sy’n:
-
Disgrifio nodau’r rhaglen
-
Tynnu sylw at fuddiannau darllen i deuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar
-
Cynnig syniadau ar gyfer rhannu’r adnoddau yn eich lleoliad, sydd wedi’u hysbrydoli gan bartneriaid eraill a’r hyn y gwyddom sy’n gweithio i deuluoedd
-
Eich helpu i rannu’r hyn sy’n digwydd yn eich lleoliad â theuluoedd ar gyfryngau cymdeithasol
-
Eich helpu i gyflwyno sesiwn hyfforddi/friffio yn lleol
Rydym yn sylweddoli bod amser yn brin, ac na fyddwch yn gallu darllen yr holl adnoddau yn yr arweiniad, felly rydym wedi nodi’r elfennau allweddol canlynol:
Os oes gennych 5 munud mi allwch:
Os oes gennych hyd at awr mi allwch:
-
Cofrestru ar gyfer un o’n gweminarau arfaethedig neu wylio recordiad o sesiwn flaenorol
Os oes gennych fwy o amser, efallai yr hoffech ddysgu mwy am BookTrust Cymru a rhannu’r adnoddau drwy ddefnyddio ein cyflwyniad hyfforddi. Pam na wnewch chi ei rannu â chydweithwyr hefyd?
Arweiniad i gynnig Dechrau Da 1-2 Oed a 3-4 Oed
Mae’r esboniwr hwn yn cynnwys negeseuon pwysig ac awgrymiadau defnyddiol ar roi rhoddion ac mae’n cynnwys dolen at ein Hyb Adrodd Straeon at gyfer partneriaid.
Llythyr i rieni a gofalwyr
Gellir rhoi’r testun golygadwy hwn i rieni / gofalwyr law yn llaw â’r pecynnau neu gellir ei anfon dros e-bost / ap i rannu negeseuon allweddol am gynnwys y pecyn a manteision darllen. Am PDF o'r llythyr, gweler isod.
Pecyn offer cyfryngau cymdeithasol
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i rannu manylion y rhaglen ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys postiadau enghreifftiol a baneri.
Dec sleidiau
Mae’r set hwn o sleidiau’n rhoi trosolwg o’r cynnig a gellir ei ddefnyddio mewn sesiynau hyfforddi / briffio i gyflwyno partneriaid cyflenwi i waith BookTrust Cymru.
Fideos
Mae’r fideos hyn yn darparu cyflwyniad i BookTrust Cymru ar gyfer partneriaid gan rannu negeseuon allweddol ynghylch beth sydd yn y pecynnau a sut y gallwch
Lawrlwythwch y llythyr at rieni a gofalwyr fel PDF y gellir ei olygu.
"Mae ein staff yn rhannu llyfrau â phlant, gan ddangos sut i ddarllen storïau’n rhyngweithiol ac mewn ffordd sy’n addas i’w plentyn, gan roi hwb i’w hyder. Rydym yn rhoi pwyslais ar siarad, chwarae a chael hwyl â llyfrau – ac nid yw hynny’n golygu bod yn rhaid eistedd yn dawel a llonydd bob tro, oni bai bod y plentyn eisiau gwneud hynny."
Canolfan Deulu Hertfordshire