Eich pecynnau a sut y gallwch chi eu defnyddio

Dewch i wybod hefyd am y llyfrau a all eich helpu i gael teuluoedd i ddechrau ar eu hanturiaethau darllen eu hunain.

I chi, ein partneriaid

Pecyn Adrodd Straeon Dechrau Da

Set o lyfrau, adnoddau, gweithgareddau a phropiau i chi eu defnyddio i arwain plant a theuluoedd ar anturiaethau adrodd straeon.

Dysgwch am y llyfrau yn eich pecyn Adrodd Straeon 

Ar gyfer ein teuluoedd

Pecyn Dechrau Da i Blant Bach ar gyfer Teuluoedd

Mae’r pecyn hwn wedi’i anelu at blant 1-2 oed a’u teuluoedd, i’w helpu i ddarganfod a rhannu llyfrau gyda’i gilydd. Mae’r pecyn yn cynnwys dau lyfr, dau gerdyn gweithgareddau, a phyped bys i helpu i ddod â straeon yn fyw.

Pecyn Dechrau Da Meithrin i Deuluoedd

Mae’r pecyn hwn wedi’i anelu at blant 3-4 oed a’u teuluoedd, i’w helpu i barhau i fwynhau darllen ar y cyd. Mae’r pecyn yn cynnwys dau lyfr, dau gerdyn gweithgareddau, a phenwisg Ar Antur Ddarllen! i’w lliwio a’i gwisgo. 

Mae Rhaglenni BookTrust Cymru i Blant Bach a Meithrin yn darparu adnoddau i deuluoedd incwm is â phlant 1-4 oed, y gall fod angen mwy o help arnynt i wneud darllen ar y cyd yn rhan reolaidd o’u bywydau.

Defnyddio'ch pecynnau: awgrymiadau a syniadau

Nid pawb sydd wedi'u magu â llyfrau'n rhan o'u bywyd teuluol. Drwy ddangos i deuluoedd pa mor hawdd yw rhannu straeon, faint o hwyl y gellir ei chael, a’u helpu i ddeall sut mae’n gwneud gwahaniaeth, gallwch chi chwarae rhan hollbwysig wrth iddyn nhw ddechrau ar eu siwrnai ddarllen eu hunain.

Fe allech chi roi cynnig ar y canlynol:

  • Rhoi gwybod i deuluoedd nad oes yna 'ffordd anghywir' o fwynhau straeon a llyfrau gyda’i gilydd. Does dim angen iddyn nhw eistedd yn dawel a darllen llyfr o glawr i glawr – gall edrych ar y lluniau a siarad am yr hyn maen nhw’n ei weld agor byd newydd sbon i’w plentyn.
  • Dangos i deuluoedd sut y gall rhannu straeon ddechrau sgyrsiau gyda'u plant, sut y gall llyfrau a straeon fod yn fan cychwyn ar gyfer cael sgyrsiau gwahanol – am eu teimladau, am yr hyn maen nhw’n ei weld yn y parc, am y tywydd, am unrhyw beth bron!
  • Tynnu sylw rhieni a gofalwyr at adegau pan fydd eu plant bach yn mwynhau’r stori, hyd yn oed mewn ffyrdd annisgwyl – edrych ar y lluniau, chwerthin ar leisiau gwirion – a rhoi sicrwydd iddyn nhw fod eu plant yn elwa mewn rhyw ffordd.
  • Rhoi gwybod i deuluoedd nad oes rhaid i ddarllen fod yn berffaith – mwynhau llyfrau a straeon gyda’i gilydd mewn unrhyw ffordd sy’n gweithio iddyn nhw sy’n bwysig.